Llwyddiant Richard Burton 'yn ei synnu'

  • Cyhoeddwyd
Richard Burton ac Elizabeth Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Burton mai Taylor - ei wraig ddwywaith - oedd ei 'lwc' mwya'

Mae golygydd dyddiaduron Richard Burton yn dweud fod yr actor o Gymru'n dal i fod â'i draed ar y ddaear ac yn ddirodres, er gwaetha' ei lwyddiant enfawr.

Fe ysgrifennodd Burton dros 400,000 gair mewn llyfrau poced a dyddiaduron cyn ei farwolaeth yn 1984, yn 58 mlwydd oed.

Mae'r pytiau, a roddwyd i Brifysgol Abertawe, wedi cael eu troi'n llyfr gan yr Athro ar hanes Cymru, Chris Williams.

"Mae fel petai'n cwestiynu'r holl beth trwy'r amser, 'sut ddigwyddodd hyn i mi?'," meddai'r Athro Williams.

Cafodd y dyddiaduron eu gadael i'w weddw, Sally Hay. Roedd y pâr wedi priodi yn 1983 - flwyddyn cyn ei farwolaeth yn y Swistir. Fe drosglwyddodd hi nhw i Brifysgol Abertawe yn 2005.

'Perthynas dymhestlog'

Dywedodd yr Athro Williams ei fod yn un o'r prosiectau mwya' diddorol iddo weithio arno.

"Roeddwn i'n disgwyl iddo fod yn llawn rhwysg, ychydig yn hunanbwysig ond mae'n dod drosodd fel rhywun â'i draed ar y ddaear.

"Mae fel petai'n gofyn iddo'i hun trwy'r amser 'sut mae hyn wedi digwydd i mi, bachgen cyffredin o gymoedd de Cymru a dyma fi'n briod â merch brydfertha'r byd, gyda'r holl arian yma, cwch hwylio, awyren a'r holl gartrefi yma o gwmpas y byd?'"

Fe briododd Burton y seren Elizabeth Taylor ac mae eu perthynas dymhestlog yn cael ei datgelu yn y dyddiaduron, fydd yn cael eu cyhoeddi fis nesa'.

Roeddynt yn briod am y tro cynta' rhwng 1964 ac 1974, ac wedyn eto rhwng 1975 ac 1976.

Fe briododd Burton bum gwaith yn y diwedd.

Elizabeth Taylor a Richard Burton mewn golygfa o'r ffilm 'Who's Afraid of Virginia Woolf'Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Burton a Taylor yn 'Who's Afraid of Virginia Woolf?, arweiniodd at Oscar i Taylor

Mae'r Athro Williams yn disgrifio Burton fel cymeriad cymhleth ac, ar brydiau, trist, yn ogystal â rhywun "oedd â diddordeb mawr yn hanes y byd, ym mhroblemau'r byd".

"Roedd yn darllen llawer o wleidyddiaeth. Roedd yn amgylcheddwr cynnar yn y ffordd yr oedd yn meddwl am effaith llygredd.

"Roedd yn hoff iawn o ysgrifennu chwaraeon ac yn darllen llawer o nofelau ditectif," meddai'r Athro Williams.

Fel ei dad, bu farw Burton o waedlif ar yr ymennydd. Bu farw yn ei gartre' ym mis Awst 1984.

Bydd y dyddiaduron yn cael eu cyhoeddi gan Yale University Press ym mis Hydref.

Hefyd gan y BBC