Gorymdaith i 'achub' ysbyty cymuned Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Gallai ysbyty cymuned Y Fflint gau

Bydd ymgyrchwyr sydd o blaid cadw ysbyty cymuned ar agor yn gorymdeithio trwy dref ddydd Mawrth wrth i fwrdd iechyd gynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno dogfen ymgynghorol ar gyfres o ad-drefnu gwasanaethau ysbytai.

Bydd y cyfarfodydd yn Siambr y Cyngor, Y Fflint am 2pm, 4pm a 6pm er mwyn i'r cyhoedd holi cwestiynau am y cynlluniau ad-drefnu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac fe fydd ymgyrchwyr sydd o blaid cadw ysbyty cymuned Y Fflint ar agor yn gorymdeithio trwy'r dref am 5pm.

Dywed y bwrdd "eu bod yn gweithio tuag at newidiadau i wasanaethau iechyd er mwyn gwella gofal y claf".

Daw hyn wedi cyfnod adolygu "estynedig a arweiniwyd gan glinigwyr, staff, y cyhoedd a'n partneriaid".

Ond dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Jack Reece: "Mae'r frwydr wedi dechrau.

"Mae gennym 10 wythnos i ddweud ein dweud ar gynnig y bwrdd i gau ein hysbyty gwerthfawr".

Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o £64.6 miliwn eleni.

Cau unedau

O dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe allai ysbytai cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau ac fe all uned mân anafiadau sawl ysbyty arall ddiflannu.

Fe fyddai hyn yn cael effaith ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.

'Gofidus'

Dywed cynrychiolwyr lleol y corff meddygol - y BMA - eu bod yn "ofidus".

Dywed y bwrdd iechyd y byddant yn gwrando ar bryderon pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniadau.

"Mae meddygon teulu yn ofidus iawn ynghylch beth all ddigwydd pe bai nifer y gwelyau mewn ysbytai cymunedol yn cael eu cwtogi," meddai Dr Banfield, cadeirydd adran gogledd Clwyd o Gymdeithas Feddygol Prydain ac obstetrydd ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd iechyd, Mary Burrows fod y newidiadau yn ymwneud â gwella gofal cleifion ac nad oeddent am gost yn unig.

Dywedodd mai costau yn sgil prinder staff a chostau cynnal a chadw adeiladau oedd y problemau mwyaf oedd yn wynebu'r bwrdd iechyd.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori 10 wythnos ar ddechrau mis Awst ac fe ddaw i ben ar Hydref 28.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol