Ail gampws Prifysgol Abertawe: 'Buddsoddiad anferth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Banc Buddsoddi Ewropeaidd wedi cyfrannu £60 miliwn at gynllun i greu ail gampws i Brifysgol Abertawe.
Daeth £30 miliwn ychwanegol o Lywodraeth Cymru a Chronfa Ddatblygu Rhanabarthol Ewrop.
Dywedodd Prifysgol Abertawe y byddai 5,000 o swyddi parhaol yn cael eu creu wedi i ail gampws gael ei godi.
Bydd 10,000 yn cael eu cyflogi, meddai, wrth i'r campws ger Rhodfa Fabian gael ei godi ac mae disgwyl iddo gael ei orffen erbyn Medi 2015.
Fe fydd y campws ar safle bron 70 o erwau ryw ddwy filltir a hanner o ganol Abertawe a bydd lle i 4,000 o fyfyrwyr fyw yno.
Cytundeb cyllid
Bydd y gwaith ehangu yn cynnwys adeiladu campws newydd ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesedd ac adfywio Campws Parc Singleton.
Ddydd Iau llofnododd yr Athro Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, a Simon Brooks, Is-Lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, gytundeb cyllid.
Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd yn bresennol yn y lansiad. "Dyma brosiect cyffrous iawn ar gyfer Abertawe ac yn wir Cymru," meddai.
"Mae cynlluniau'r brifysgol yn uchelgeisiol iawn ...
"Bydd y gwaith ehangu yn gryn hwb i'r maes ymchwil a datblygu ac i adfywiad economaidd yr ardal. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r cynllun."
Dywedodd is-ganghellor y brifysgol: "Hoffem ddiolch i Fanc Buddsoddi Ewrop ac i Lywodraeth Cymru am ein helpu i gyflawni ein cynlluniau ehangu uchelgeisiol.
'Strategaeth'
"Bydd y campws newydd ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesedd yn helpu'r brifysgol Abertawe i baratoi Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ...
"Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu ein strategaeth twf, gan fanteisio ar y partneriaethau cadarn yr ydym wedi'u datblygu â busnesau rhyngwladol a'n hymchwil blaengar."
Dywedodd y byddai ehangu'r campws yn creu ffynhonnell o sgiliau ar gyfer y diwydiant, gan gysylltu myfyrwyr yn uniongyrchol â busnesau, eu lleoli ar yr un safle ac o fewn yr un labordai, gan sicrhau bod gan y myfyrwyr sy'n ymuno â'r byd gwaith y sgiliau angenrheidiol.
Bydd y campws newydd ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesedd yn gartref i Goleg Peirianneg ac Ysgol Busnes ac Economeg y brifysgol a hefyd i wahanol fusnesau rhyngwladol, Prydeinig a lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012