Trafod cynlluniau iechyd yn y gogledd orllewin
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym Mhwllheli nos Wener i drafod cynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Hwn fydd y diweddar mewn cyfres o gyfarfodydd oherwydd newidiadau arfaethedig.
Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.
Mae argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.
Mae yna nifer o newidiadau eraill fydd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal iechyd yn y gogledd.
Dadleuol
Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint.
Mae'n bosib y bydd unedau mân anafiadau Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun yn cau.
Daw'r argymhellion ar ddiwedd adolygiad, proses oedd weithiau'n ddadleuol iawn, a gychwynnodd yn 2009.
Nod yr adolygiad, yn ôl y bwrdd iechyd, yw gwella safon, diogelwch, dibynadwyedd ynghyd â rheoli neu leihau costau yn wyneb cynnydd yn y boblogaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012