Wood yn datgan polisi niwclear Plaid

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood ACFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Wood bod yn well gan Blaid Cymru dechnolegau adnewyddol dros rhai niwclear

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ceisio egluro safbwynt y blaid ar ynni niwclear, a sut mae hynny'n berthnasol i Ynys Môn.

Dywedodd Leanne Wood bod polisi'r blaid yn erbyn codi gorsafoedd niwclear newydd, ond y byddai Plaid yn gweithio i greu swyddi ar yr ynys.

Bydd atomfa'r Wylfa yn rhoi'r gorau i gynhyrchu erbyn diwedd 2014, ond mae gobaith am orsaf newydd i gymryd ei lle.

Dywedodd Ms Wood bod y blaid wastad wedi rhoi rhwydd hynt i gynrychiolwyr lleol i "benderfynnu drostyn nhw'u hunain".

Byddai cannoedd o swyddi'n cael eu creu gan atomfa newydd fyddai'n rhan o gynllun ynni Horizon, sy'n destun diddordeb buddsoddi o Ffrainc a China.

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu codi atomfa newydd yng Nghymru ond mae'r cyn arweinydd Ieuan Wyn Jones - sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros Ynys Môn - wedi cefnogi ymdrechion i sicrhau atomfa newydd ar yr ynys.

'Neges glir'

Mae polisi niwclear Plaid wedi achosi trafferthion yng nghadarnle'r gogledd orllewin lle mae swyddi yn y diwydiant niwclear wedi bod yn bwysig i'r economi leol.

Bydd etholwyr Ynys Môn yn pleidleisio yn etholiadau'r cyngor ym mis Mai 2013 wedi i'r etholiadau gael eu gohirio am flwyddyn weid i Lywodraeth Cymru benodi comisiynwyr i redeg y cyngor sir.

Ar raglen Sunday Politics Wales ar y BBC, dywedodd Leanne Wood: "Byddaf yn dweud wrth ymgeiswyr yn yr etholiad i wneud yn siwr eu bod yn trosglwyddo neges glir Plaid Cymru i'r etholwyr, sef gwneud popeth o fewn ein gallu ar lefel leol, gan weithio gyda'r cynulliad ac yn San Steffan, i greu cymainy o swyddi ag sy'n bosib ar yr ynys."

'Siomedig'

Ond yn ddiweddarach, dywedodd nad oedd hyn yn golygu bod rhaid i ymgeiswyr ganfasio ar sail polisi gwrth-niwclear cenedlaethol y blaid, ond ar gefnogi swyddi lleol ar Ynys Môn.

Ar ôl y rhaglen, dywedodd: "Mae'n siomedig fy mod yn gorfod egluro fy safbwynt ar hyn pan oeddwn wedi son am gefnogi hyfforddiant i bobl leol fel bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i wneud y swyddi yma os fydd atomfa arall yn cael ei chymeradwyo.

"Mae'r blaid wastad wedi cael pryderon am ynni niwclear. Mae'r blaid wastad wedi bod yn erbyn codi gorafoedd niwclear newydd ar safleoedd newydd.

"Ond rydym wedi rhoi'r hawl i gynrychiolwyr lleol y blaid ar Ynys Môn ac ym Meirionnydd benderfynnu drostyn nhw'u hunain ar gwestiynau fel ymestyn adweithyddion presennol, dadgomisiynu ac ar orsafoedd newydd ar safleoedd presennol, ac i daro cydbwysedd rhwng pryderon amgylcheddol y blaid gyda mater swyddi.

"Rydym yn blaid ddatganoledig ac wedi addo gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi creu swyddi lleol pe bai penderfyniad o godi atomfa newydd ar Ynys Môn, ac fe fyddaf yn gwneud popeth posibl i gefnogi Ieuan Wyn Jones ac ymgeiswyr lleol Plaid Cymru sy'n gweithi'n ddiflino dros bobl Ynys Môn."

'Bargen werdd'

Yn gynharach yn y mis, fe draddododd Ms Wood ei haraith gyntaf fel arweinydd Plaid Cymru yng nghynhadledd y blaid gan addo "bargen werdd newydd" i hybu economi Cymru.

Dywedodd hefyd i byddai llywodraeth Plaid yn sefydlu cyrff cenedlaethol newydd i fuddsoddi mewn ynni gwyrd ac i hybu dyfeisgarwch a menter.

Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, hefyd wedi dweud bod dyfodol Wylfa yn "allweddol" i'r economi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol