Leanne Wood yn addo 'bargen newydd werdd'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood: 'Tanddatblygiad economaidd yw'r rhwystr pennaf ...'

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi addo "bargen newydd werdd" i geisio hybu'r economi.

Roedd Leanne Wood yn annerch cynhadledd flynyddol ei phlaid yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.

Dywedodd fod Plaid Cymru'n bwriadu "darparu sgiliau, gwaith â chyfleoedd" i bobl ifanc ac y bydden nhw'n canolbwyntio ar faterion oedd yn bwysig i bleidleiswyr yn lle materion cyfansoddiadol.

Ail-godi'r economi Gymreig a chreu swyddi yw thema'r gynhadledd ddechreuodd fore Gwener.

"Tanddatblygiad economaidd yw'r rhwystr pennaf i'n datblygiad ni fel gwlad," meddai Ms Wood.

Pwerdy

Un o'r deddfau cyntaf y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei phasio, meddai, fyddai un yn sefydlu pwerdy cenedlaethol.

"Byddwn ni'n buddsoddi mewn strwythur genedlaethol o ynni llanw, ynni gwynt a hydro dan berchnogaeth y gymuned, sy'n canolbwyntio ar ein hanghenion ein hunain.

"Ni fydd llywodraeth yn San Steffan, beth bynnag ei lliw, yn blaenoriaethu buddianau Cymru.

"Os nad ydi banciau Llundain yn rhoi menthyg arian i fusnesau Cymru, rydyn ni angen creu system ariannol ein hunain (drwy sefydlu) banc cyfanwerthu ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol, rhwydwaith o undebau credyd a throi'r clytwaith o fenthycwyr cymdeithasol yn gorff arbedion cenedlaethol."

Dywedodd ei bod hi wedi gofyn i gomisiwm economaidd ei phlaid edrych ar sut y byddai'n creu "Cymru arloesol, fentrus er mwyn cyfuno'r gorau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ..."

Yn y gynhadledd sy'n para am ddau ddiwrnod mae cynadleddwyr yn trafod diweithdra ieuenctid, datgloi pŵer pwrcasu Cymru, pwysigrwydd cymdogaethau cryf, dyfodol y Deyrnas Gyfunol yn ogystal ag addysg uwch yng Nghymru.

Y pwyslais yw bod strategaeth Plaid Cymru yn cynnig atebion i broblemau pobol yn eu bywydau dydd-i-ddydd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddadlau o blaid annibyniaeth.

Cyn y gynhadledd dywedodd Helen Mary Jones, Cadeirydd Plaid Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn cyfarfod yn Aberhonddu ac y mae dewis y dref ar gyfer ein cynhadledd flynyddol yn arwydd o'n penderfyniad i estyn allan i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.

"Ni yw plaid genedlaethol Cymru."

'Y bwlch economaidd'

Mynd i'r afael â phroblemau economaidd Cymru fyddai blaenoriaeth y blaid, meddai.

"Lledodd y bwlch economaidd o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan ac mae hynny'n parhau dan y llywodraeth Glymblaid.

"Cred Plaid Cymru mai dim ond trwy gymryd mwy o'r awenau yma yng Nghymru y gallwn greu'r genedl lwyddiannus y gwyddon ni y gallwn ni fod.

"Yn ddiamau, mae gennym y ddawn i lwyddo - mae ein gorffennol yn profi y gallwn arwain y byd mewn arloesedd ac uchelgais.

"Mae'n bryd i ni yn awr ailddarganfod y penderfyniad hwn i lwyddo."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol