Pryderon am ofal i'r henoed
- Cyhoeddwyd
![Person mewn cartref gofal](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/62684000/jpg/_62684458__56880339_carehome-1.jpg)
Mae 20% yn llai o welyau ar gael yng nghartrefi gofal awdurdodau Cymru
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau eu bod yn ystyried dyfodol cartrefi gofal ar yr ynys.
Mae staff a phreswylwyr y chwe chartre' gofal yn y sir wedi cael gwybod y bydd y cyngor yn cynnal proses ymgynghori "yn ymwneud â chynlluniau i ailfodelu gwasanaethau preswyl a chymunedol ar Ynys Môn".
Yn ôl y cyngor, maen nhw'n wynebu her ariannol sylweddol ac maent yn awyddus i roi mwy o bwyslais ar roi cymorth i bobl yn eu cartrefi yn hytrach na mewn canolfannau pwrpasol.
Maent hefyd yn pryderu am gyflwr rhai adeiladau a nifer y gwelyau gweigion.
Ond mae staff a theuluoedd preswylwyr yng nghartre' Garreglwyd yng Nghaergybi wedi ymateb yn chwyrn i'r cynlluniau.
Daeth dros 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn y dre' fis diwetha'.
Mae'r cyngor nawr wedi cadarnhau eu bod hefyd yn bwriadu ymgynghori ar ddyfodol pum cartre' arall ar yr ynys - yn Llangefni, Amlwch, Llanfairpwll, Llangoed a Bryngwran.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012