Gofal yr henoed ar Ynys Môn: Cyfarfod cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyfarfod cyhoeddus drafod cynlluniau Cyngor Ynys Môn ar gyfer dyfodol cartrefi preswyl yr ynys nos Lun.
Cyngor Tref Llangefni trefnodd y cyfarfod yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Ym mis Awst eleni cyhoeddodd y cyngor y byddai eu gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer oedolion yn cael eu hailstrwythuro wrth i'r awdurdod geisio delio â'r cynnydd mewn pobl hŷn sy'n byw ar yr ynys.
Amcangyfrir y bydd 25% o'r boblogaeth yn fwy na 65 oed erbyn 2032.
'Sylweddol'
Gallai pob cartref gofal y mae'r cyngor yn eu rheoli gau er mwyn arbed £15 miliwn yng nghyllideb yr awdurdod lleol erbyn 2016.
Mae'r cyngor yn gofalu am 168 o breswylwyr yn y chwe chartref ym Mhlas Penlan, Llangefni; Plas Crigyll, Bryn Gwran; Garreglwyd, Caergybi; Brwynog, Amlwch; Plas Mona, Llanfairpwll ac Haulfre, Llangoed.
Dywedodd yr awdurdod eu bod yn wynebu "heriau ariannol sylweddol" a'u bod am roi mwy o bwyslais ar ofal yn y cartref yn lle gofal mewn cartrefi preswyl.
Mae'r cyngor hefyd yn poeni am gyflwr rhai o adeiladau'r cartrefi gofal sy'n cynnwys nifer o welyau gwag.
Hyd yn hyn mae staff a theuluoedd preswylwyr yng Nghartref Gofal Garreglwyd yng Nghaergybi wedi ymateb yn chwyrn i'r cynllun arfaethedig.
Roedd dros 200 mewn cyfarfod gyhoeddus yn y dref ym mis Awst.
Dechreuodd cyfnod ymgynghorol y cynigion ddydd Iau diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012