Ydi gwiwer ucha'r DU yn byw yn Hafod Eryri?

  • Cyhoeddwyd
Y wiwer tu mewn i Hafod EryriFfynhonnell y llun, SNowdon Mountain Railway
Disgrifiad o’r llun,

Gwelir y wiwer ar y wal gefn ychydig o dan y golau

Mae staff Hafod Eryri, ar gopa'r Wyddfa, yn ceisio dal gwiwer lwyd sydd wedi ymgartrefu yn yr adeilad.

Cafodd yr anifail ei weld ger ardal fwyta'r adeilad ac mae lle i gredu ei fod yn dwyn pacedi o gnau.

Dywedodd y staff eu bod yn fwy cyfarwydd a gweld defaid, gwylanod, llygod a hyd yn oed brogaod ar y copa.

Ond dyma'r tro cyntaf i wiwer gael ei gweld yno.

"Cafodd y wiwer ei gweld gyntaf ychydig fisoedd yn ôl ac roeddem yn credu ei bod wedi mynd," meddai Jonathan Tyler, rheolwr y copa.

"Fe wnaeth un o'r gweithwyr weld y wiwer yr wythnos yma a llwyddo i gael llun.

"Mae'n byw yma rhywle ac yn chwilio am fwyd.

"Tybed a'i dyma'r wiwer ucha' yn y DU?"

'Dim syndod'

Dywedodd nad oedd yn gwybod sut y gallai'r wiwer fod wedi cyrraedd y copa am na allai fod wedi dod ar y trên a bod y coed yn gorffen tua 700 meter islaw'r copa.

Ond dywedodd Hywel Roberts, uwch reolwr wrthgefn gogledd Eryri i'r Cyngor Cefn Gwlad, nad oedd yn syndod.

"Mae gwiwerod yn llwyddo i fynd i bob man.

"Mae 'na gynnydd yn eu nifer."

Dywedodd bod wiwerod llwyd yn broblem gadwraeth am eu bod yn cael effaith ar adar bach ac anifeiliaid eraill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol