Tro pedol ynghylch cau dwy ysgol?

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanfair Llythynwg , PowysFfynhonnell y llun, Friends of Gladestry School
Disgrifiad o’r llun,

Mae 41 disgybl yn mynychu Ysgol Llanfair Llythynwg ar hyn o bryd

Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn penderfynu dyfodol ysgolion cynradd yn ddwy ran o'r sir yn ddiweddarach.

Ddydd Mawrth bydd aelodau'r cabinet yn cael eu gofyn i gymeradwyo cais i gau Ysgol Bugeildy ond dechrau'r broses ymgynghori ynglŷn â'r posibilrwydd o gadw ysgolion Llanfair Llythynwg ac Hwytyn ar agor.

Mae'n debygol y bydd tua 100 o bobl o bentref Bugeildy yn cynnal protest y tu allan i bencadlys Cyngor Powys cyn cyfarfod y cabinet fore Mawrth.

Y nod yw'r posibilrwydd o greu Ysgol Ffederal rhwng Ysgol Llanfair Llythynwg ac Ysgol Dyffryn Maesyfed ac Ysgol Ffederal rhwng Ysgol Hwytyn ac Ysgol Llanandras.

Ysgrifennu cân

Yn gynharach eleni roedd y cyngor wedi cyflwyno cynlluniau posib i gau ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy ac Hwytyn, yn nalgylch Ysgol John Beddoes yn Sir Faesyfed gan symud disgyblion i Ysgol Tre'r Clawdd, Ysgol Llanandras neu Ysgol Dyffryn Maesyfed.

Hefyd bydd adroddiad arall ynglŷn ag addysg gynradd yn nalgylch Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn Sir Brycheiniog yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cynllun i gau Ysgol Rhosgoch erbyn mis Awst 2013 ac i'r disgyblion gael eu trosglwyddo i Ysgol Cleiro.

Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cynllun i adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nghleiro yn lle'r ysgol bresennol.

Ym mis Gorffennaf cynhaliwyd protest gan rieni a disgyblion sy'n ymgyrchu dros gadw ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy ac Hwytyn ar agor.

Y pryd hynny dywedodd y cyngor sir nad oedd y niferoedd isel yn yr ysgolion yn cynnig gwerth am arian a byddai cau'r tair ysgol yn arbed £232,000.

Teithiodd cefnogwyr o'r tair ysgol ar fws o Ysgol Llanfair Llythynwg i Ysgol Tre'r Clawdd er mwyn tynnu sylw at hyd y daith, sy'n siwrne wyth milltir.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth disgyblion o Ysgol Llanfair Llythynwg ysgrifennu cân i gefnogi'r ysgol.

Statws elusennol

Maen nhw bellach wedi recordio fideo sydd i'w weld ar wefan YouTube.

Yn ôl ffigurau diweddar, mae gan Ysgol Hwytyn 42 o ddisgyblion.

Mae 41 disgybl yn mynychu Ysgol Llanfair Llythynwg a 38 o ddisgyblion yn cael eu haddysg yn Ysgol Bugeildy.

Dywedodd Mary Compton, cydlynydd grŵp gafodd ei sefydlu i wrthwynebu'r cynllun i gau'r tair ysgol: "Mae cymuned Bugeildy yn flin iawn ac fe fyddai'n anghyfiawnder llwyr i gau Ysgol Bugeildy.

"Rydym yn hapus ynghylch y posibilrwydd o gadw'r ddwy ysgol arall ar agor ond dydyn ni ddim yn deall pam fod y cyngor am gau Ysgol Bugeildy.

"Bydd hyn yn golygu na fydd yr un ysgol yn y 25 milltir rhwng Tre'r Clawdd a'r Drenewydd."

Dywedodd adroddiad gan Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio'r Cabinet ar gyfer Dysgu a Hamdden fod "yr ymatebion i'r ymgynghoriad, y data diweddaraf ac yn enwedig safon uchel addysg yn yr ysgol yn arwain at y casgliad na ddylai Ysgol Llanfair Llythynwg gau".

Ychwanegodd yr adroddiad y dylai swyddogion ystyried yr opsiwn o ffederaleiddio'r ysgol ag Ysgol Dyffryn Maesyfed.

Yn ôl yr adroddiad mae statws elusennol Ysgol Hwytyn yn golygu bod ganddi'r adnoddau cyllidol i wella safonau addysg yr ysgol.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai swyddogion ystyried yr opsiwn o ffederaleiddio'r ysgol ag Ysgol Llanandras.

Bydd y cabinet hefyd yn ystyried cais i ddechrau'r broses ymgynghori i gau Ysgol Gynradd Gatholig (a Gynorthwyir) Sant Joseff yn Aberhonddu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol