Caneuon: Trosglwyddo hawl darlledu
- Cyhoeddwyd
Bydd cannoedd o gyfansoddwyr a chwmnïau cyhoeddi o Gymru yn hawlio mwy o gyfrifoldeb am eu cynnyrch yn dilyn ffrae yn ymwneud â thaliadau a hawliau cyfansoddwyr gyda sefydliad Prydeinig y PRS (Cymdeithas Hawliau Perfformio).
Am 12:00am nos Sul, bydd 330 o gyfansoddwyr a chwmnïau yn cyflwyno llythyr i'r PRS yn gofyn am ail-gyfeirio taliadau darlledu.
Byddant wedyn yn trosglwyddo'r hawl hwnnw i sefydliad newydd yr EOS (Asiantaeth Cymru).
Mae'r rhai sy'n cefnogi'r corff newydd yn honni bod y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg wedi colli £1.2m yn dilyn newidiadau gan y PRS.
Yn ôl Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru, mae'r symiau y maen nhw'n eu derbyn wedi gostwng 85% ers i wasanaeth BBC Radio Cymru gael ei drin fel gwasanaeth radio lleol yn hytrach na darlledwr cenedlaethol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynghrair y bydd y cerddorion yn parhau yn aelodau o'r PRS ond bydd hawliau darlledu yn cael eu trosglwyddo i EOS.
Yn ôl y llefarydd, bydd EOS hefyd yn denu 2000 o aelodau nad oedd yn aelodau o'r PRS.
O fis Ionawr nesa' (yn dilyn tri mis o rybudd gofynnol gan y PRS), fydd yr arian a gaiff ei dalu gan ddarlledwyr i'r PRS ddim yn cynnwys taliadau ar gyfer tua 30,000 o gyfansoddwyr o Gymru - fydd o hynny ymlaen yn cael eu trwyddedu gan EOS.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011