Cynlluniau ar gyfer pentref ymddeol arloesol yn y De
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau yn cael eu paratoi i godi pentref ymddeol cyntaf Cymru.
Fel rhan o'r datblygiad mi fyddai canolfan ddementia yn cael ei sefydlu ar y safle ar gyrion Y Fenni yn Sir Fynwy.
Mae pentrefi tebyg eisoes yn bodoli ar y cyfandir ac yn boblogiadd iawn, yn enwedig yn America.
Y bwriad yw gwario £33 miliwn o bunnau ar godi'r pentre fyddai'n darparu holl anghenion y bobl fydd yn byw yno gan gynnwys gofal iechyd.
Safle fferm Grove Farm yn Llanfoist Fawr sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer y prosiect.
Y perchennog, Ben Jones, sydd tu ôl i'r cynllun.
Mae e'n gobeithio y bydd un o fanciau'r Swistir a chronfeydd pensiwn yn talu am y fenter.
"Rydym yn clywed drwy'r amser am gyplau yn cael eu gwahanu pan mae un ohonyn nhw yn datblygu dementia.
"Yn hytrach na chael gofal filltiroedd o'u cartrefi, mi fyddai'r pentre yma yn eu galluogi i aros gyda'i gilydd"
Swyddi newydd
Yn ogystal â chanolfan ddementia fydd yn gallu cartrefu hyd at 100 o bobl, y gobaith yw cael canolfan feddygol yn y ffermdy, bwyty ar lan y llyn ac addasu'r ysgubor bresennol ar gyfer pwll nofio.
Bydd 100 o'r bythynnod a fflatiau yn cael eu gwerthu i unigolion preifat a bydd y gweddill yn cael eu cynnig i'r sector cyhoeddus - gan gynnwys cleifion y Gwasanaeth Iechyd ac elusennau.
Mae'r datblygwyr yn amcangyfrif y gallai hyd at 250 o swyddi newydd gael eu creu petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo,
Dylanwad y cyfandir
Mae'r pentref wedi ei seilio ar gynllun tebyg yn yr Iseldiroedd.
Mae cleifion dementia sy'n byw ym mhentre Hogewey yn gallu crwydro yn ddiogel gan bod y glanhawyr a'r gweithwyr siop yno wedi eu hyfforddi fel meddygon.
Y nod yma ydi rheoli salwch yn y gymuned ond dydi hynny ddim yn rhâd. Mae'n costio mil o bunnau'r wythnos i fyw yno.
Mae yna amcangyfrif y bydd trigolion Grove Farm yn talu hyd at £800 o bunnau'r wythnos.
Mae'r Athro Julie Williams, arbennigwraig ar drin ddementia yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn croesawu'r syniad o greu pentre pwrpasol i bobl sydd â salwch meddwl.
"Mae mwy a mwy o bobl erbyn hyn yn datblygu dementia pan maen nhw mor ifanc a hanner cant oed," meddai.
"Mae'n bwysig felly ein bod ni'n meddwl o ddifri sut yr ydyn ni am ddelio â'r sefyllfa."
Gwrthwynebiad lleol
Ond mae rhai pobl leol yn poeni bod y datblygiad yn rhy fawr. Does dim darpariaeth newydd ar hyn o bryd yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Fynwy ar gyfer gofal pobl hŷn.
Dywedodd Martin Hickman, cynghorydd sir Llanfoist Fawr: "Mae'n wir dweud bod 'na lawer o ddatblygu wedi bod yn yr ardal hon yn ddiweddar ac mae 'na bryder am y cynllun diweddara hwn.
"Ond gan bod nifer y bobl sydd wedi cyrraedd oed ymddeol yn Sir Fynyw yn codi drwy'r amser mae'n bwysig ystyried gofal pobl hŷn yn y Cynllun Datblygu."
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â chynnwys darpariaeth ar gyfer gofal pobl hŷn yn eu Cynllun Datblygu Lleol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011