Dathlu amrywiaeth yn y Gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl Balchder Gogledd Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Neuadd Hendre, ger Bangor, Gwynedd.
Cymru Pride Wales sydd yn trefnu'r achlysur. Mae'r mudiad yn hyrwyddo digwyddiadau ar gyfer y gymuned hoyw, lesbiaid, ddeurywiol a thrawsrywiol.
Dywedodd Carwyn Humphreys, cadeirydd y pwyllgor sydd yn trefnu'r digwyddiad, mai'r amcan yw ymestyn allan i gymaint o aelodau o'r gymuned ag sydd bosibl.
"Rydyn ni'n gobeithio bydd pobl hoyw a hetero yn dod at eu gilydd i ddathlu amrywiaeth," meddai.
Bydd yr wŷl yn hollol ddwy-ieithog hefyd yn ol Cymru Pride Wales.
"Mae'n bwysig dangos i bobl bod yna bobl hoyw yn siarad Cymraeg a bydd hyn yn gyfle i bobl gael ymfalchïo yn yr ardal lle maen nhw'n byw"
Bydd Samantha Brooks o'r Rhyl, a fuodd yn cystadlu ar gyfres deledu'r X Factor, yn perfformio yn yr ŵyl.
Ac fe fydd Luke Anderson o'r Fflint, enillydd rhaglen Big Brother eleni, yn agor y digwyddiad.
Dywedodd Mr Humphreys ei fod yn gobeithio y byddai'r ŵyl yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Bydd Gŵyl Balchder Gogledd Cymru yn dechrau am 8pm ddydd Gwener ac yn gorffen ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2012