Cynllun post newydd yn un o bentrefi Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa'r Post, Moelfre
Disgrifiad o’r llun,

Bydd siop 'Rhen Fecws ym Moelfre bellach yn Swyddfa'r Post yn ogystal

Dros y blynyddoedd diweddar, mae cymunedau mewn sawl rhan o Gymru wedi gweld eu swyddfa bost yn cau.

Ond mae un gymuned ar Ynys Môn yn gweld peth prin iawn, Swyddfa'r Post newydd yn agor.

Fe gaeodd Swyddfa Post pentref Moelfre tua phedair blynedd yn ôl.

Ers hynny mae'r trigolion wedi gorfod teithio i drefi Benllech neu Amlwch er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenda Parry wedi bod yn paratoi am flwyddyn cyn medru agor Swyddfa'r Post ym Moelfre

Gwasanaeth pwysig arall

Yna yn 2010, fe gymrodd Gwenda Parry yr awenau mewn siop yn y pentref - 'Rhen Fecws.

Cyn hir roedd wedi ymestyn yr adeilad ac ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys gwerthu papurau newydd, sigaréts a diodydd yn ogystal â pharatoi brechdanau a bwydydd parod poeth.

Roedd lle yno hefyd i gael paned.

O ddydd Mercher fe fydd un gwasanaeth pwysig arall ar gael yno, sef Swyddfa'r Post.

Fe fydd ar agor yr un oriau a'r siop, sef o 7:30am bob bore tan y bydd y siop yn cau gyda'r nos, ac fe fydd hefyd ar agor ar benwythnosau.

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun newydd gan Swyddfa'r Post, sef 'Post Office Local', ac fe fydd y swyddfa'r cynnig ystod eang o wasanaethau Swyddfa'r Post ond nid adnewyddu treth car na gwasanaeth pasport.

'Mwy o oriau'

"Teimlo oedden ni fod angen Swyddfa'r Post yma yn y pentref," meddai Gwenda Parry.

"Mae cymaint o bobl sy'n gorfod mynd ymhell i ffwrdd i gael y gwasanaethau yma.

"Mae wedi cymryd dros flwyddyn o waith paratoi cyn i ni fedru agor - roedd angen cownter newydd a phob math o bethau felly.

"Mae'n gynllun newydd gan Swyddfa'r Post, ac mae'n golygu y byddwn ni ar agor am fwy o oriau na Swyddfeydd Post arferol."

Mae'r busnes ym Moelfre yn cyflogi chwech yn rhan amser.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol