Pryderon am ddyfodol Canolfan Amgylcheddol Moelyci
- Cyhoeddwyd

Mae Moelyci yn cynnal taith madarch ar 14 Hydref
Gallai Canolfan Amgylcheddol Moelyci ger Bangor gau o fewn misoedd os nad oes mwy o gefnogaeth ariannol.
Mae wedi colli cytundebau pwysig gyda'r llywodraeth a'r awdurdod lleol.
Sefydlwyd yr elusen 10 mlynedd yn ôl pan brynodd pobl leol gyfranddaliadau er mwyn prynu 350 erw o dir fferm a mynydd.
Y nod yw helpu ail-hyfforddi pobl sydd am weithio eto, hybu ffyrdd mwy cynaliadwy o ffermio a diogelu cynefin o bwysigrwydd gwyddonol.
Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi newid rheolau'r Rhaglen Waith.
Nawr bydd elusennau fel Moelyci ddim yn cael tal am eu gwaith hyfforddi tan fod y person di-waith wedi sicrhau swydd am gyfnod penodol.
Eglurodd John Harold, prif swyddog cadwraeth yr elusen, "Mae'n golygu na all pobl sydd eisiau profiad er mwyn dychwelyd i'r gwaith ddod atom ni bellach - heb fod ganddyn nhw sicrwydd o swydd.
"Mae'r ffordd newydd o ariannu wedi ei wneud o'n anodd iawn i elusennau bach fel ni.
"Dim ond y cwmnïau mawr sy'n gallu benthyg arian o flaen llaw sy'n gallu gweithio fel yna ar hyn o bryd."
Gofyn am gefnogaeth
Ar hyn o bryd, mae Moelyci hefyd wedi colli cytundeb gyda Chyngor Gwynedd i droi gwastraff gwyrdd yn gompost.
Mae Moelyci felly am lansio apêl i annog pobl leol i brynu ragor o gyfranddaliadau yn y fferm.

Mae Moelyci wedi bod yn weithred gymunedol ers 2002
"Elfen gyntaf yr apêl yw sicrhau ein goroesiad," eglurodd Mr Harold, sy'n poeni na fydd yr elusen yn gallu cynnal yr 8 aelod o staff heb gymorth dros y wythnosau nesaf.
"Mae'r fferm yn adnodd unigryw i'r gymuned ac i gadwraeth natur yn yr ardal.
"Elfen arall yr apêl yw hel arian er mwyn galluogi i ni orffen gwaith adeiladu ar y ganolfan addysg newydd. Rydym wedi bod yn rhedeg cyrsiau llwyddiannus ac yn ymwybodol y gallent fod yn incwm da i ni ac felly gwneud yr elusen yn llawer mwy hunan-gynaladwy.