Ffrae am uno prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Fetropolitan CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ystyried mynd â'r mater ymhellach

Mae cadeirydd bwrdd llywodraethwyr prifysgol wedi dweud ei bod hi'n poeni am gynlluniau'r Gweinidog Addysg i ddiddymu'r sefydliad.

Eisoes mae'r gweinidog, Leighton Andrews, wedi dweud ei fod yn ffafrio creu un brifysgol fawr yn y de ddwyrain ond mae Barbara Wilding, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, wedi dweud ei bod yn credu iddo wneud ei benderfyniad heb wybod y gost yn llawn na'r risgiau.

Ychwanegodd ei bod hi wedi gofyn ers blwyddyn am weld achos busnes y penderfyniad a'i bod hi'n credu nad oedd yn bodoli.

Dywedodd fod bwrdd y llywodraethwyr yn ystyried anfon adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac am drafod y mater â'r Archwilydd Cyffredinol.

'Yn fwy cadarn'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol yn gwbwl ymwybodol o'r pynciau trafod sy'n ymwneud ag aildrefnu addysg uwch yn y de-ddwyrain.

"Cafodd eu hadroddiad am Gydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ei gyhoeddi yn 2009 a thrafododd Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad, rhagflaenydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yr adroddiad a chasglu 'fod angen i Lywodraeth y Cynulliad a CCAUC fod yn fwy cadarn yn y maes hwn'.

"Rydym yn ystyried yn ddifrifol ymatebion i'r broses ymgynghori."

Yng Ngorffennaf cyhoeddodd y gweinidog ei gynllun i ddiddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd, a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd fel y gallai'r ddwy uno â Phrifysgol Morgannwg a chreu sefydliad addysg uwch newydd yn y de-ddwyrain.

Mae ymgynghoriad ar y cynllun eisoes wedi dechrau.

Roedd Morgannwg a Chasnewydd eisoes wedi datgan bwriad i uno ond mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi dweud y byddan nhw yn erbyn y newid tan iddyn nhw weld achos busnes sy'n cefnogi uno'r tri sefydliad.

Ychwanegodd Ms Wilding: "Mae ail gwestiwn yn codi - a yw'r gweinidog wedi derbyn cyngor anghywir oddi wrth bobl sy'n ei gynghori neu a ydyw wedi cael ei gamarwain i gredu bod y wybodaeth yma'n bodoli?

"Y gwir amdani yw nad yw'n gwybod beth fydd y gost, felly dyw e ddim yn gwybod faint y bydd rhaid i'r trethdalwr yng Nghymru gyfrannu at y gost."

Adroddiad ffurfiol

Roedd Mr Andrews wedi dweud ei fod yn credu bod y rhai y byddai'r uno'n effeithio arnyn nhw "wedi cael digon o wybodaeth er mwyn ymateb yn ystyrlon i'r broses ymgynghori".

Gwadu hynny mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac maen nhw'n bygwth mynd â'r mater ymhellach.

"Rydym fel bwrdd yn ystyried gyda'n cyfreithwyr i wneud adroddiad ffurfiol i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am sut y mae swyddfa'r Gweinidog wedi ymddwyn yn y broses gydag arian cyhoeddus," meddai Ms Wilding.

"Rydym hefyd am gael sgwrs gyda'r Archwilydd Cyffredinol, gan ofyn iddo ystyried sut y cawsom gais fel bwrdd i reoli ein hasedau, ein hadeiladau, beth sydd yn ein cyfrifon banc, ein pobl a'n myfyrwyr.

Goroesi

"Ry'n ni'n sôn am 1,000 o staff, 13,000 o fyfyrwyr - sut y cawsom ni gais i reoli'r rhain heb achos busnes?

"Nid yw'r llywodraethwyr yn erbyn uno. Hon fyddai prifysgol fwyaf y DU ond blle mae'r achos busnes i gefnogi hynny?"

Eisoes mae'r gweinidog wedi dweud bod yr uno yn hanfodol er mwyn i'r prifysgolion oroesi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol