Cyngerdd cyntaf arweinydd newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

  • Cyhoeddwyd
Thomas Søndergård
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas Søndergård yn awyddus i ehangu repertoire Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Bydd arweinydd newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn arwain ei gyngerdd cyntaf nos Wener.

Cafodd Thomas Søndergård ei benodi dros yr haf am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd.

Mae'n olynu Thierry Fischer a adawodd swydd y prif arweinydd ddechrau'r haf.

Yn wreiddiol o Ddenmarc, mae Søndergård yn enwog am ei ddehongliadau o gyfansoddwyr Scandinafaidd.

Bydd gwaith Sibelius a Grieg yn rhan o'r cyngerdd cyntaf nos Wener yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Ond mae'r arweinydd yn awyddus i gyflwyno ystod eang o gyfansoddwyr i raglen gyngherddau a recordio'r gerddorfa.

"Rwy'n hoff o wahanol fathau o gerddoriaeth, ac rwy'n siŵr y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru a lle bynnag arall y byddwn yn teithio hefyd yn hoffi gwaith amryw gyfansoddwyr," meddai.

"Fe hoffwn wneud llawer o bethau gwahanol gyda'r gerddorfa gan fy mod yn teimlo y gall repertoire y gerddorfa fod yn eang iawn."

Mae llawer o alw am Søndergård fel arweinydd.

Yn ogystal â'i rôl gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fe gafodd ei benodi'n ddiweddar yn brif arweinydd gwadd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Yr Alban.

Bydd y cyngerdd nos Wener yn cael ei ddarlledu'n fyw ar BBC Radio 3, ac fe fydd hefyd yn cynnwys perfformiad gan un arall o Ddenmarc, sef enillydd Canwr y Byd BBC Caerdydd yn 1993, y soprano Inger Dam-Jensen.

Hefyd gan y BBC