Cynghorwyr Powys yn gwrthod parlwr godro
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Powys wedi gwrthod cynlluniau dadleuol ar gyfer parlwr godro anferth ym Mhowys er i'r datblygiad gael sêl bendith bron blwyddyn yn ôl.
Y llynedd roedd cynghorwyr wedi pleidleisio'n erbyn argymhellion swyddogion ac wedi cefnogi'r parlwr godro ar gyfer 1,000 o wartheg yn Nhre'r Llai ger Y Trallwng.
Ond Llywodraeth Cymru fydd â'r gair olaf wedi iddyn nhw benderfynu fis Ionawr fod angen adolygu'r cais oherwydd pryderon am lygredd a'r effaith weledol.
Ym mis Tachwedd dywedodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Powys eu bod yn "dueddol o gymeradwyo'r cais" ar sail adroddiad am "faterion yn weddill".
Ers hynny mae'r awdurdod yn dweud bod eu cyfansoddiad wedi newid, bod yna lai o bwyllgorau, ac aelodaeth o'r pwyllgorau hynny wedi newid.
'Anferth'
Roedd adroddiad, dolen allanol ar gyfer swyddogion y cyngor yn dweud bod cyngor cyfreithiol wedi awgrymu y dylid ailystyried y cais oherwydd y newidiadau.
Yn yr adroddiad roedd sôn am wastraff, mynediad i'r safle arfaethedig, agweddau tirwedd a gweledol ynghyd ag unrhyw effaith ar leoliadau cyfagos fel tre'r Trallwng neu Gastell Powis.
Yn ôl rhai gwrthwynebwyr, roedd y cynllun yn "anferth" ac yn anaddas gan ei fod yn agos at gartrefi ac ysgol gynradd.
Roedd Geoff Vine, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Tre'r Llai, wedi ysgrifennu llythyr o wrthwynebiad at y cyngor.
"Ein prif bryder ... yw bod ffermio llaeth dwys fel hyn yn rhywbeth newydd (dyma'r cais cynllunio cynta' yng Nghymru) ac o'r herwydd does dim llawer o reolau ynghlwm wrth y math hwn o ffermio dwys," meddai.
"Rydym yn teimlo bod materion iechyd sylweddol ynghlwm wrth unrhyw weithgaredd ffermio dwys ac y dylid cyflwyno rheolau llym fel sydd 'na ar gyfer ffermydd moch a dofednod."
Siomedig
Roedd swyddogion wedi argymell gwrthod y cynllun am ei fod yn groes i bolisïau Cyngor Powys.
Ac roedd pryderon am systemau draenio a mynediad i'r safle.
Roedd y ffermwr gyflwynodd y cais, Fraser Jones, wedi dweud ei fod yn siomedig fod y llywodraeth wedi penderfynu adolygu'r cais.
"Ond dwi'n obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad oes 'na risg amgylcheddol na materion eraill fydd yn gallu rhwystro'r cynllun rhag mynd yn ei flaen," meddai ar y pryd.
"Dyna oedd teimlad y cynghorwyr ar ôl mynd i'r safle," meddai.
Yn 2010 honnodd Compassion in World Farming fod y cynlluniau yn ffurf ar ffermio ffatri.
Mae'r ffermwr wedi gwadu hyn ac wedi dweud y bydd iechyd a lles yr anifeiliaid yn cael eu monitro'n gyson.
Dywedodd y byddai'r gwartheg yn y parlwr am 250 niwrnod y flwyddyn a'i fod wedi treulio tair blynedd ar y cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011