Plwyfolion yn cynnal gwylnos fel protest yn erbyn cau eglwys
- Cyhoeddwyd
Mae plwyfolion eglwys Babyddol yn cynnal gwylnos y tu mewn i'r eglwys fel protest yn erbyn cynllun i'w dymchwel.
Ddydd Sul cynhaliwyd yr offeren olaf yn Eglwys y Forwyn Fair a Santes Gwenffrewi yn Aberystwyth, sy'n destun ffrae rhwng yr Esgob a'r plwyfolion.
Bydd yr wylnos yn parhau yn yr eglwys tan ddydd Mercher ac fe fydd o leiaf un o'r plwyfolion yn bresennol yno tan hynny.
Ni fydd yr eglwys yn cael ei hyswirio o ddydd Iau.
'Angen dymchwel'
Mae Esgob Mynwy, Thomas Burns, wedi dweud bod angen dymchwel yr eglwys am resymau diogelwch.
Yn hytrach na gwario miliynau o bunnoedd ar wella cyflwr yr adeilad presennol, mae'r esgobaeth yn awyddus i werthu'r safle ac adeiladu eglwys newydd tu allan y dref.
Ond mae rhai plwyfolion yn anfodlon, gan ddweud nad oes angen gwario cymaint ar yr adeilad ac y byddai ei symud allan o ganol y dref yn ei gwneud hi'n anodd i bobl fynd yno i addoli.
Bydd y cynlluniau i ddymchwel yr eglwys yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Ceredigion ar Dachwedd 14.
Y bwriad yw codi eglwys newydd ym Mhenparcau ar gyrion Aberystwyth ond gallai gwasanaethau gael eu cynnal mewn canolfan gymunedol neu ysgol leol yn y cyfamser.
Cafodd Eglwys Babyddol y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi ei hadeiladu ym 1874 ac mae 300 o bobl yn addoli mewn tri gwasanaeth yno bob dydd Sul.
Mae'r safle yn Ffordd y Frenhines yn cynnwys neuadd blwyf, sydd wedi dirywio, a thŷ offeiriad.
£2.6 miliwn
Yn ôl yr Esgobaeth fe fyddai'n costio mwy na £2.6 miliwn i adfer yr adeiladau hyn ond mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn anghytuno gan honni y byddai'r gost tua £625,000.
Dywedodd yr Esgob Burns: "Fyddwn i ddim yn gyrru car heb yswiriant ac ni allaf gadw eglwys ar agor heb yswiriant oherwydd bod yr yswirwyr yn argymell y dylen ni gau'r eglwys a thŷ'r offeiriad i atal y peryg i bobl."
Dywedodd gwrthwynebwyr eu bod nhw wedi cynnal arolwg o'r eglwys gan honni ei bod "mewn cyflwr syndod o dda" ac y byddai'r gost o adfer yr adeilad tua £625,000.
Yn dilyn yr offeren olaf ddydd Sul, dywedodd un ohonynt, Lucy Huws: "Rydym yn teimlo'n drist ac yn alarus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Medi 2012
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012