Pier Y Mwmbwls: Tân ddim yn un amheus
- Cyhoeddwyd
Dyw'r Gwasanaeth Tân ddim yn credu fod y tân wnaeth ddifrodi pier y Mwmbwls wedi'i gynnau'n fwriadol.
Dechreuodd tân tua 01:20am ddydd Sadwrn.
Cafodd rhan o'r llawr pren ei ddifrodi ond ni ddifrodwyd y prif strwythur.
Mae 'na waith adnewyddu'n yn cael ei wneud ar y pier ar gost o £9.5 miliwn.
'Mudlosgi'
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y pier, John Bollom fod y tân wedi ei gyfyngu i un rhan o'r pier, sef y rhan lletaf lle mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i godi gorsaf newydd i'r RNLI.
"Gyda hen bren yna gall gwreichion fod wedi bod yn mudlosgi heb i neb sylweddoli tan gewch chi wynt cryf," meddai.
"Byddwn yn ymchwilio i achos y tân er mwyn gwneud yn siŵr nad ydi hyn yn digwydd eto.
"Rydym yn ffodus na chafodd unrhyw un ei anafu. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol