Plwyfolion yn Aberystwyth i apelio i'r Fatican?

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Gatholig y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi yn Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynlluniau i adeiladu eglwys newydd tua dwy filltir y tu allan i'r dref ym Mhenparcau

Mae plwyfolion sy'n ceisio diogelu dyfodol Eglwys Gatholig yn Aberystwyth wedi dweud y gallan nhw fynd â'u hymgyrch i'w hachub i'r Fatican yn Rhufain.

Cynhaliwyd yr offeren olaf yn Eglwys y Forwyn Fair a Santes Gwenffrewi ddydd Sul.

Ers hynny mae rhai o'r plwyfolion wedi cynnal gwylnos yno, a fydd yn parhau hyd at ddiwedd nos Fercher.

Bryd hynny bydd y drysau yn cau oherwydd ni fydd yr eglwys yn cael ei hyswirio o ddydd Iau.

Mae'r esgob am ddymchwel yr eglwys a gwerthu'r safle er mwyn codi eglwys newydd ar gyrion Aberystwyth.

'Angen dymchwel'

Mae Esgob Mynwy, Thomas Burns, wedi dweud bod angen dymchwel yr eglwys am resymau diogelwch.

Yn hytrach na gwario miliynau o bunnoedd ar wella cyflwr yr adeilad presennol, mae'r esgobaeth yn awyddus i werthu'r safle ac adeiladu eglwys newydd tu allan y dref.

Ond mae rhai plwyfolion yn anfodlon, gan ddweud nad oes angen gwario cymaint ar yr adeilad ac y byddai ei symud allan o ganol y dref yn ei gwneud hi'n anodd i bobl fynd yno i addoli.

Bydd y cynlluniau i ddymchwel yr eglwys yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Ceredigion ar Dachwedd 14.

Y bwriad yw codi eglwys newydd ym Mhenparcau ar gyrion Aberystwyth ond gallai gwasanaethau gael eu cynnal mewn canolfan gymunedol neu ysgol leol yn y cyfamser.

Cafodd Eglwys Babyddol y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi ei hadeiladu ym 1874 ac mae 300 o bobl yn addoli mewn tri gwasanaeth yno bob dydd Sul.

Mae'r safle yn Ffordd y Frenhines yn cynnwys neuadd blwyf, sydd wedi dirywio, a thŷ offeiriad.

£2.6 miliwn

Yn ôl yr Esgobaeth fe fyddai'n costio mwy na £2.6 miliwn i adfer yr adeiladau hyn ond mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn anghytuno gan honni y byddai'r gost tua £625,000.

Dywedodd yr Esgob Burns: "Mae unrhyw weddïau am ganlyniad boddhaol wastad yn cael eu croesawu.

"Byddai canlyniad boddhaol yn digwydd os bydd Cyngor Ceredigion yn cymeradwyo'r cais cynllunio i ddatblygu safle'r eglwys yn Ffordd y Frenhines gan ryddhau arian i godi eglwys newydd ym Mhenparcau.

"Mae cennad y Pab wedi dweud ddwywaith mewn negeseuon diweddar nad mater iddo ef ond mater i'r esgobaeth leol yw hwn."

Dywedodd gwrthwynebwyr eu bod nhw wedi cynnal arolwg o'r eglwys gan honni ei bod "mewn cyflwr syndod o dda" ac y byddai'r gost o adfer yr adeilad tua £625,000.

Yn dilyn yr offeren olaf ddydd Sul, dywedodd un ohonynt, Lucy Huws: "Rydym yn teimlo'n drist ac yn alarus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol