Cwmni Hitachi yn prynu Horizon i godi ail atomfa ar Yr Wylfa

  • Cyhoeddwyd
Yr Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr Wylfa gynhyrchu ynni yn 1971

Cyhoeddodd cwmni Hitachi o Japan eu bod wedi cytuno i brynu prosiect niwclear Horizon.

Mae'r prosiect yn cynnwys datblygu atomfa newydd ar safle'r Wylfa ar Ynys Môn.

Fe wnaeth perchnogion Horizon, cwmnïau E.ON ac RWE o'r Almaen, roi'r prosiect ar werth ym mis Mawrth am nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun i godi atomfa newydd.

Cyhoeddodd y gwerthwyr bod y consortiwm o dan arweiniad Hitachi wedi ei werthu am £696 miliwn ac mae disgwyl i'r trosglwyddiad gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.

Horizon oedd â'r drwydded i adeiladu Wylfa B.

Mae'n gynllun gwerth £8 biliwn.

Mae hefyd yn cynnwys codi gorsaf newydd yn Oldbury, Sir Gaerloyw.

Cytunodd Hitachi, sy'n ennill ychydig o dan 10% o'u holl werthiant o'r adran systemau pŵer, yn ffurfiol i brynu Horizon mewn cyfarfod o'r bwrdd ddydd Mawrth.

'Newyddion gwych'

Roedd 'na adroddiadau dros y penwythnos eu bod yn agos at gytundeb.

Dywedodd Hitachi eu bod yn gobeithio creu rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi uniongyrchol ar bob safle yn ystod y gwaith adeiladu a 1,000 o swyddi pellach ar bob safle wrth i'r gwaith cynhyrchu gychwyn.

Disgrifiad,

Alun Thomas yn holi'r Athro Glyn O Phillips

Wedi cyhoeddiad Hitachi mae 'na groeso wedi bod i'r newyddion gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, yn dweud bod hyn yn "bleidlais o hyder" yn y DU ac y bydd yn "cyfrannu'n allweddol at strwythur pŵer newydd i'n heconomi".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod hyn yn newyddion da iawn i Gymru ac i'r DU.

"Mae'r budd posib o'r datblygiad yma ar Ynys Môn yn sylweddol, nid o ran creu miloedd o swyddi arbenigol ond o ran hwb i'r gadwyn gyflenwi.

"Fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth San Steffan a Hitachi i sicrhau'r buddsoddiad yma i Gymru."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ar Twitter, bod hyn yn "newyddion gwych i bobl Ynys Môn".

Trwyddedau

Mae Bryan Owen, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sydd yn cynrychioli cam mawr ymlaen yn nhermau sicrhau gorsaf bŵer newydd i Fôn.

"Yn bwysicach byth, mae'n gam mawr tuag at wireddu'r nod o greu cyflogaeth a buddsoddiad sylweddol yn economi Môn, yn ogystal â'r buddion ehangach ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.

"Hoffwn longyfarch Hitachi a'u croesawu i Ynys Môn."

Bydd rhaid i'r cwmni sicrhau arian i godi'r adeilad a sicrhau'r trwyddedau cywir.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Horizon, Alan Raymant, bod hwn yn gychwyn pennod newydd cyffrous iawn i Horizon.

"Mae gan Hitachi record ryngwladol o adeiladu a gweithredu gorsafoedd pŵer niwclear.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i RWE npower ac E.ON am greu a datblygu Horizon hyd at y pwynt yma.

"Byddwn nawr yn canolbwyntio ar ailafael yn ein busnes yn llawn, a gweithio gyda'n perchnogion newydd er mwyn cyflwyno'n cynlluniau cyn gynted â phosibl."

Disgrifiad,

Alun Thomas yn holi Albert Owen, AS Ynys Môn

Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar i'r gymuned a'i chynrychiolwyr ar Ynys Môn a thrwy Gymru gyfan am eu cefnogaeth barhaus, yn enwedig dros y misoedd diweddar.

Eglurodd Ysgrifennydd Ynni San Steffan, Edward Davey, bod gan Hitachi ddegawdau o brofiad.

"Maen nhw'n gyfrifol am adeiladu rhai o'r adweithyddion niwclear mwya' blaenllaw ar amser ac o fewn cyllideb.

"Dwi'n croesawu eu haddewid i adeiladu ynni carbon isel diogel ar gyfer y DU."

Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC Ynys Môn: "Rydw i'n croesawu'r newyddion fod cytundeb i werthu Horizon i Hitachi ac y bydd cynlluniau ar gyfer gorsaf niwclear newydd yn Wylfa yn mynd ymlaen.

"Mae'r prosiect yn hanfodol bwysig i economi Ynys Môn ac mae'r cyhoeddiad yn newyddion da iawn gan ei fod yn dod a ni gam yn nes at greu swyddi o ansawdd ar yr ynys yn ogystal â chyfleoedd i gwmnïau lleol wrth iddo gael ei adeiladu.

"Gobeithiaf, oherwydd yr holl waith paratoi sydd eisoes wedi'i wneud, y bydd y cynlluniau hyn yn gallu ail-ddechrau cyn gynted â phosib."

Fukushima

Hitachi oedd yn gyfrifol am adeilad Fukushima yn Japan.

Dywedodd Robert Idris o PAWB, mudiad sy'n gwrthwynebu codi ail atomfa, ei fod yn ansicr bod pobl yr ynys eisiau'r dechnoleg "sydd wedi methu yn Japan".

"Ydi pobl Ynys Môn eisiau Wylfashima yma?

"Mae dŵr Japan wedi ei lygru ac mae erthygl ddiweddar yn dweud na fydd modd bwyta pysgod am 10 mlynedd o leia'.

"Ydi hi'n foesol gywir bod technoleg o Japan yn dod i Ynys Môn, i wlad sy'n cael gwared ar y dechnoleg yma?

"Dwi ddim yn meddwl."

Roedd Prif Weithredwr Horizon ar y pryd yn dweud fod Wylfa yn parhau i fod yn un o'r safleoedd mwyaf deniadol yn Ewrop ar gyfer atomfa.

Cafodd Horizon ei roi ar werth oherwydd pwysau o'r Almaen wedi iddyn nhw benderfynu cael gwared ar ynni niwclear yn raddol wedi damwain Fukushima.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth consortiwm ar y cyd rhwng cwmnïau o Ffrainc a China roi'r gorau i gynlluniau i wneud cais i godi atomfa newydd ar Ynys Môn am y tro.

Ni wnaeth Corfforaeth Niwclear Guangdong ac Areva roi cais i mewn erbyn y diwrnod cau ar gyfer ceisiadau.

Bryd hynny dywedodd llefarydd ar ran PAWB, fod y cyhoeddiad "yn brawf digamsyniol bod polisi'r Wladwriaeth Brydeinig o gefnogi codi gorsafoedd niwclear newydd yn chwilfriw."

Cafodd cynllun Horizon ei sefydlu yn 2009 er mwyn codi gorsafoedd niwclear yn lle'r atomfeydd Magnox 40 oed yn Wylfa ac Oldbury.

Mae disgwyl i'r Wylfa barhau i gynhyrchu ynni tan Medi 2014 - neu cyn hynny os yw'r gallu i gynhyrchu yn pylu.

Yr Wylfa yw'r unig orsaf Magnox sy'n parhau i gynhyrchu ynni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol