Wylfa: Caniatâd i drosglwyddo tanwydd
- Cyhoeddwyd
Mae atomfa'r Wylfa ar ynys Môn wedi cael caniatâd i drosglwyddo tanwydd yno fydd yn sicrhau y bydd y safle yn aros ar agor tan 2014.
Gorffennodd Adweithydd 2 yn Yr Wylfa, a ddechreuodd weithredu yn 1971, gynhyrchu trydan ym mis Ebrill.
Fe fydd Adweithydd 1 yn parhau i gynhyrchu trydan tan fis Medi 2014.
Yn ôl yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, bydd y tanwydd yn cael ei drosglwyddo o Adweithydd 2 i Adweithydd 1.
Incwm ychwanegol
Mae'r cynlluniau i ddatblygu Wylfa B wedi eu rhoi i'r neilltu am y tro ond fe gyhoeddwyd yn gynharach eleni y byddai cwmni Areva o Ffrainc a Guangdong Nuclear Power Corporation Holding (CGNPC) yn cyflwyno cais ar y cyd i brynu'r busnes.
Wylfa yw'r unig un o safleoedd Magnox sy'n dal i gynhyrchu trydan wedi i Orsaf Bŵer Oldbury yn Sir Gaerloyw gau ar Chwefror 29 eleni.
Mae'r penderfyniad i barhau i gynhyrchu trydan yn yr Wylfa wedi ei gymeradwyo gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac yn cael ei gefnogi gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC).
Y gred yw bod yr incwm ychwanegol gafodd ei greu gan safleoedd yr Wylfa ac Oldbury a gynhyrchodd drydan am bedair blynedd yn hirach na'r disgwyl, hyd yn hyn yn werth tua £600m.
"Mae'r penderfyniad i barhau i gynhyrchu trydan yn atomfa'r Wylfa yn newyddion gwych ac fe fydd y safle yn creu cyllid ychwanegol sylweddol i gefnogi ein cynllun datgomisiynu," meddai Brian Burnett, pennaeth rhaglen datgomisiynu yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar gyfer Magnox.
Dywedodd cyfarwyddwyr safle Wylfa, Stuart Law, y dylai'r staff gael clod am yr estyniad am eu bod wedi cefnogi'r safle yn ystod 41 mlynedd o gynhyrchu trydan.
Ail atomfa
Dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth y DU, Charles Hendry: "Bydd y penderfyniad hwn yn galluogi Wylfa i gynhyrchu trydan am ddwy flynedd arall, gan warchod swyddi a chreu incwm masnachol ychwanegol.
"Bydd hyn yn helpu cyfrannu at gost ein rhaglen rheoli etifeddiaeth y broses datgomisiynu niwclear."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r newyddion y byddai Wylfa'n cynhyrchu ynni carbon isel tan Fedi 2014.
"Gallai datblygu Wylfa B gyfrannu £2.34 bn tan 2025 wrth greu 5,000 o swyddi adeiladu a 800 o swyddi uniongyrchol."
Mae cwmnïau E.On ac RWE npower, oedd wedi sefydlu cwmni Horizon i ddatblygu Wylfa B, yn dal i chwilio am berchennog newydd ar gyfer y cwmni.
Ar werth
Y bwriad oedd i Horizon godi atomfa newydd - Wylfa B - a fyddai wedi dechrau cynhyrchu trydan o 2025 ar ôl adolygiad.
Ym mis Mawrth cyhoeddodd perchnogion Horizon Nuclear Power - RWE ac E.on - nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun i godi ail atomfa ar Ynys Môn.
Cafodd Horizon ei roi ar werth oherwydd pwysau o'r Almaen wedi iddyn nhw benderfynu cael gwared ar ynni niwclear yn raddol wedi damwain Fukushima yn Japan yn 2011.
Ym mis Mehefin eleni dywedodd y Gweinidog Ynni ei fod yn dal yn obeithiol y bydd ail atomfa ar Ynys Môn.
Dywedodd Charles Hendry wrth staff yr atomfa fod gan y diwydiant ynni niwclear ddyfodol ar Ynys Môn ac yn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012