Galw am i Gymru reoli tollau

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae cytundeb presennol am dollau Pontydd Hafren yn dod i ben yn 2018

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar i dollau Pontydd Hafren gael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.

Galwodd Carwyn Jones ar lywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am drefniadau rheoli'r pontydd ar ôl 2018, gan ystyried dewis y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd fel rheolwyr llawn dros y gyfundrefn dollau.

Wrth siarad yn ei gynhadledd newyddion fisol ddydd Llun, dywedodd Mr Jones:

"Rydym yn gwybod fod Pontydd Hafren yn gyswllt pwysig yn isadeiledd economaidd a thrafnidiaeth Cymru, a dyna pam yr ydym wedi comisiynu adroddiad annibynnol i edrych ar effaith economaidd y tollau ac asesu'r effeithiau ar economi Cymru.

Diwedd cytundeb

"Mae'r cytundeb presennol gyda'r cwmni preifat sy'n rhedeg y pontydd yn debyg o ddod i ben yn 2018. Wedi hynny fe fydd yr arian o'r tollau yn mynd i lywodraeth y DU.

"Mae'n amser felly i ddechrau meddwl am ddyfodol y pontydd fel y gall trefniant newydd gael ei sicrhau sy'n gwneud y gorau o'r budd ariannol i Gymru a'r DU.

"Rwy'n galw felly am drafodaethau cynnar am y pontydd pan fydd y cytundeb presennol yn gorffen. Mae angen i'r trafodaethau yna edrych ar addasrwydd y ddeddfwriaeth bresennol a dyfodol y tollau.

"Rwy'n bryderus bod awgrymiadau cynnar gan lywodraeth y DU eu bod am geisio cadw incwm o'r tollau y tu hwnt i 2018. Mae'n amlwg i mi na fyddai hynny'n dderbyniol.

"Pa bynnag drefniadau ariannol a chyfreithiol fydd yn dilyn bryd hynny, fe fyddai'n ymddangos fod gyrwyr sy'n dod i mewn i Gymru yn talu - yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol - i ariannu'r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr.

Adroddiad

"Mae angen derbyn yr egwyddor sylfaenol y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rôl ganolog wrth benderfynu trefniadau'r dyfodol, ac i ddefnyddio unrhyw arian yn y dyfodol er budd pobl Cymru.

"O ystyried arwyddocâd strategol y pontydd i'r DU, mae'n bwysig cydweithio'n agos gyda gwleidyddion yn Llundain. Byddaf felly'n codi'r mater gyda gweinidogion y DU dros yr wythnosau nesaf."

Daeth sylwadau'r Prif Weinidog ar y diwrnod y datgelodd adroddiad annibynnol bod y tollau i groesi Pontydd Hafren yn costio tua £80 miliwn i economi Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r tollau'n cael eu gwario ar waith adeiladu a chynnal a chadw Pontydd Hafren.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol