Dileu cynllun Cymraeg chweched dosbarth ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ganoli addysg Gymraeg dosbarthiadau chwech mewn tair ysgol ym Mhowys wedi cael eu dileu.
Y nod oedd canoli darpariaeth y Gymraeg yn ysgolion yn Llanfair ym Muallt, Llanfair Caereinion a Llanfyllin.
Mae'r cyngor wedi bod yn adolygu addysg uwchradd yn y sir ond nid yw'r cynlluniau'n cynnwys y bwriad i gau'r un ysgol na chweched dosbarth
Y llynedd dywedodd Cyngor Powys eu bod am 13 ysgol uwchradd y sir i gydweithio yn dilyn pryderon y gallai rhai ysgolion uno.
Ysgolion dwyieithog
Ddydd Mercher dywedodd y cyngor eu bod yn diwygio eu cynllun addysg Gymraeg strategol.
Dywed y cyngor eu bod yn blaenoriaethu "dau fater sylfaenol", sef cynyddu nifer y disgyblion fydd yn derbyn addysg Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar a gwella'r cynnig o ran y cwricwlwm addysg Gymraeg i ddisgyblion ysgol uwchradd a disgyblion sy'n derbyn addysg ôl-16.
Yn ôl yr awdurdod bydd ysgolion uwchradd Llanfair ym Muallt, Llanfair Caereinion a Llanfyllin yn parhau i fod yn ysgolion dwyieithog.
Dywedodd Myfanwy Alexander, Aelod y cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu a Hamdden: "Mae ysgolion eisoes yn cydweithio fel partneriaethau dysgu ac rydym yn meddwl mai'r ffordd orau i ddarparu cwricwlwm Gymraeg cynaliadwy o ansawdd uchel yw i ysgolion gydweithio.
"Ein nod yw cael o leiaf un darparwr i bob partneriaeth i arwain addysg Gymraeg ar gyfer y cwricwlwm ôl-16."
"Rydym wedi adolygu'r cynigion gwreiddiol ac ystyried adborth y cyhoedd ar y pryd sy'n golygu ein bod wedi newid cyfeiriad."
"Rydym yn credu mai hwn yw'r ffordd orau i ddarparu cyfleoedd cyfartal i ddysgwyr mewn sir fawr, wledig fel Powys."
Bydd cabinet y cyngor yn ystyried y cynllun diwygiedig yn ddiweddarach eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012