Cam-drin: 'Dim enwau cyhoeddus' mewn adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Bryn Estyn care home in North Wales in 1992
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr honiadau'n ymwneud â cham-drin yng nghartref Bryn Estyn

Mae awdur adroddiad i gam-drin mewn cartrefi plant yn y 1970au ac 80au yn dweud na roddwyd enwau ffigyrau cyhoeddus gan y rhai a gafodd eu cam-drin.

Dywedodd John Jillings nad yw'n cofio honiadau bod plant wedi cael eu cludo o gartrefi Gogledd Cymru cyn cael eu cam-drin.

Dywedodd un dioddefwr y byddai ymchwiliad annibynnol a gomisiynwyd gan hen Gyngor Clwyd - sef sail adroddiad Jillings - wedi cael clywed am honiadau o'r fath.

Mae Steve Messham yn feirniadol o atgof Mr Jillings am yr enwau a roddwyd.

Dim cyhoeddi

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi ymchwiliad heddlu newydd i'r honiadau o gam-drin.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i'r honiadau yn 1991, ac fe gafwyd saith o gyn-weithwyr gofal yn euog.

Ond wrth i fwy o honiadau mewn bron 40 o gartrefi ddod i'r amlwg, fe gomisiynodd Cyngor Clwyd Mr Jillings ym mis Mawrth 1994 i edrych ar y mater, ond chafodd ei adroddiad fyth ei gyhoeddi oherwydd pryderon cyfreithiol.

Pan ofynnwyd iddo pa enwau a ddaeth gan ddioddefwyr, dywedodd Mr Jillings wrth y BBC: "Byddai'n well gen i beidio rhestru enwau oherwydd mae'n amser hir ers hynny, ond doedden nhw ddim yn cynnwys pobl adnabyddus mewn bywyd cyhoeddus.

"Fe ganolbwyntiodd yr ymchwiliad ar aelodau o staff, oherwydd dyna oedd y bobl yr oedd y plant yn son amdanynt."

Gofynnwyd i Mr Jillings hefyd os oedd yn cofio honiadau Mr Messham. Atebodd:

"Dydw i ddim yn cofio, na. Efallai bod fy nghof yn pallu ond dydw i ddim yn cofio fod hynny'n un o'r materion a gododd gyda ni. Rwy'n cofio honiadau difrifol iawn o gam-drin gan aelodau o staff."

Gofynnwyd iddo hefyd os oedd wedi clywed honiadau gan un dioddefwr am gam-drin gan wleidydd amlwg yng nghyfnod Thatcher sy'n dal yn fyw.

"Dim i mi gofio," meddai. "Rwy'n siwr y byddai hynny wedi aros yn fy meddwl, ac fe fyddwn ni wedi bod am ymchwilio i hynny petai ni'n gwybod amdano."

'Gwarthus'

Dywedodd Mr Messham nad oedd yn cofio beth yn union a ddywedodd wrth yr ymchwiliad, ond fe fyddai wedi cyfeirio at gopïau o'r ddatganiadau i'r heddlu, ac roedd wedi bod yn "hollol glir" yn y rheini am bwy fu'n ei gam-drin.

"Pe bawn i o flaen ymchwiliad fe fyddwn i wedi son am y gwestyau...fe fyddwn i wedi son am y bobl yma," meddai.

"Mae dweud na chafodd neb o'r tu allan i'r cartrefi eu henwi, wel mae hynny'n gwbl anghywir. Ond mae e'n (Mr Jillings) yn dweud, a phob clod iddo am hynny mewn un ffordd, mai ei faes llafur oedd i ymchwilio i staff yn y cartrefi.

"Iawn dyna oedd ei faes llafur, ond mae dweud na chafodd wybod am gam-drin y tu allan i'r cartrefi, i ddweud na fyddai wedi cael clywed am y gwesty yn Wrecsam, rwy'n credu fod hynny'n warthus."

Dywedodd Mr Jillings ei fod wedi cael ei arwain i gredu na chafodd ei adroddiad ei gyhoeddi am fod yswirwyr y cyngor yn teimlo y gallai arwain at blant yn mynd i gyfraith am iawndal mewn modd fyddai wedi bod yn gostus iawn.

"Roedden ni'n rhwystredig ac yn bryderus ar ran y plant, roedden ni'n teimlo ein bod wedi gwastraffu llawer o amser ac ymdrech, ac roedd methu a chyhoeddi'r adroddiad yn gwbl annerbyniol," meddai.

Yn gynharach, dywedodd y Blaid Geidwadol y byddai'n sicrhau ymchwiliad llawn i honiadau bod un o ymgynghorwyr Mrs Thatcher wedi bod yn rhan o gam-drin.

Yn y cyfamser, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, fod eiswyddfa wedi derbyn 38 o alwadau ers i Mr Messham siarad yn gyhoeddus, rhai gan bobl oedd "am wneud honiadau newydd o gam-drin".