Cam-drin: 38 o alwadau ffôn

  • Cyhoeddwyd
Cartef gofal Bryn Estyn yn 1992Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cartef gofal Bryn Estyn yn 1992

Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru wedi derbyn 38 o alwadau ers i ddioddefwr gwyno am natur yr ymchwiliad i achosion cam-drin yn y gogledd yn y 1970au a'r 1980au.

Dywed Keith Towler fod rhai o'r galwadau yn cynnwys honiadau newydd a'i fod yn croesawu galwadau pellach.

Yn gynnar yn y 1990au daeth nifer o honiadau am gam-drin rhywiol a chorfforol yn nghartefi gofal y gogledd i'r amlwg.

Fe arweiniodd hyn at Ymchwiliad Waterhouse.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth un o'r dioddefwyr, Steve Messham, alw am ymchwiliad newydd.

Dywed Mr Towler fod y 38 galwad ffôn wedi dod ers cyfweliad teledu Mr Messham ar raglen Newsnight nos Wener.

Roedd Mr Meesham yn dweud nad oedd yr ymchwiliad wedi datgelu'r holl sefyllfa.

"Yn y cartref roedd cam-drin yn rhywbeth cyffredin, yn dreisgar ac yn rhywiol," meddai wrth raglen Newsnight.

"Mae rhai o'r galwadau yn ymwneud yn uniongyrchol ag Ymchwiliad Waterhouse neu yn ymwneud â materion yn codi am gartrefi gofal y gogledd yn y 1970au a'r 1980au," eglurodd Mr Towler.

Yn y cyfamser ddydd Mercher fe wnaeth y Blaid Geidwadol gadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau fod gwleidydd blaenllaw o gynfnod Margeret Thatcher wedi bod yn cam-drin plant mewn gofal yng ngogledd Cymru.

Fe ddaeth yr honiadau - sy'n ymwneud a chartrefi gofal yn y gogledd a chartref Bryn Estyn, Wrecsam, yn benodol - i'r amlwg am y tro cyntaf yn y 1990au.

Nos Fawrth fe wnaeth rhaglen newyddion Channel 4 ddarlledu honiad gan un arall o ddioddefwyr Bryn Estyn.

Aelod Seneddol

Dywedodd iddo weld y diweddar Syr Peter Morrison - oedd â chyswllt agos â'r Prif Weinidog Margaret Thatcher ar y pryd - yn dod i'r cartref ac yna gyrru ffwrdd gydag un o'r bechgyn.

Ni chyhoeddwyd enw'r dioddefwr a wnaeth yr honiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod yr honiadau difrifol yn cael eu harchwilio yn llawn."

Bu farw Syr Peter, a fu'n Aelod Seneddol Caer rhwng 1974 a 1992, yn 1995.

Dywedodd Prif Gwnstabl Gogledd Cymru Mark Polin: "Gallwn sicrhau'r dioddefwr a'r cyhoedd yn gyffredinol y bydd unrhyw wybodaeth newydd yn cael eu hymchwilio mewn modd grymus ac mor fuan â phosib."

Yn y Senedd dydd Mawrth fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â'r ymchwiliad i'r honiadau o gam-drin.

Dywedodd mai Keith Bristow, Pennaeth yr Asiantaeth Droseddau, fyddai'n arwain yr ymchwiliad i'r modd y deliodd yr heddlu gyda'r honiadau.

Tystiolaeth

Y barnwr Uchel Lys, Mrs Ustus Macur, fydd yn arwain yr adolygiad o Ymchwiliad Waterhouse.

Cadarnhaodd Ms May fod Mr Polin, wedi gofyn i Mr Bristow asesu'r honiadau diweddara' ac i adolygu ymchwiliadau gwreiddiol yr heddlu yn ogystal ag ymchwilio i unrhyw honiadau newydd am gam-drin mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

"Bydd Mr Bristow yn cyflwyno adroddiad cychwynnol, yn adolygu'r ymchwiliadau gwreiddiol ac unrhyw honiadau newydd erbyn mis Ebrill 2013," meddai Ms May.

"Rwyf wedi ei gwneud yn glir i Mark Polin a Keith Bristow fod y Swyddfa Gartre' yn barod i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol."

Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, William Hague, orchymyn yr ymchwiliad gwreiddiol yn 1996 - ymchwiliad i achosion o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng Nghlwyd a Gwynedd.

Fe wnaeth ymchwiliad, dan arweinyddiaeth Syr Ronald Waterhouse, glywed tystiolaeth gan dros 650 o bobl oedd wedi bod mewn gofal.

Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cam-drin neu sydd angen cymorth ynglŷn â'r materion hyn gysylltu â'r NSPCC ar 0808 800 500 neu gysylltu â'r heddlu ar 101.