Nofel gyntaf yn ennill Gwobr Dylan Thomas i'r Americanes Maggie Shipstead

  • Cyhoeddwyd
Maggie ShipsteadFfynhonnell y llun, Gwobr Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Seating Arrangements ydi nofel gyntaf Maggie Shipstead

Fe wnaeth nofel gyntaf yr awdur Maggie Shipstead ennill £30,000 iddi pan gipiodd Wobr Dylan Thomas.

Mewn seremoni yn Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe fe enillodd yr Americanes 28 oed y wobr am y nofel Seating Arrangements.

Cytunodd y beirniaid bod y nofel yn dangos "aeddfedrwydd sylweddol ac yn gyflawniad arbennig".

Mae'r nofel yn cymryd golwg strategol ar gymdeithas ddiymhongar New England ac mae'n astudiaeth ddoniol ond dwys o deulu Americanaidd wrth baratoi ar gyfer priodas.

Cafodd yr enillydd ei dewis gan banel o feirniad oedd yn cynnwys, sefydlydd Gŵyl y Gelli Peter Florence, y nofelwraig Allison Pearson, yr awdur, cantores a chyflwynydd Cerys Matthews, yr awdur a newyddiadurwr Carolyn Hitt, y sylwebydd a'r artist Kim Howells, newyddiadurwr Nicholas Wroe a Peter Stead, Cadeirydd Gwobr Dylan Thomas.

Dywed y beirniaid bod Shipstead yn dangos "addewid gwirioneddol".

'Serenu'

Dywedodd Alison Pearson y byddai'n ennill Gwobr Pulitzer cyn ei bod yn 50 oed.

Fe wnaeth Shipstead astudio yn 2008 yng ngweithdy ysgrifennu Iowa o dan law enillydd Zadie Smith, enillydd Gwobr Orange.

Ychwanegodd Cerys Matthews bod y dasg beirniadu wedi bod yn un o'r caleta' iddi fod yn rhan ohono.

"Roedd 'na leisiau cryf yn nifer o'r llyfrau ond fe wnaeth Maggie serennu fel awdur cwbl fedrus lle mae'r rhyddiaith yn ddiymdrech ac mae 'na rwyddineb a phrydferthwch."

Mae'r wobr ar agor i unrhyw awdur sy'n ysgrifennu yn Saesneg ac o dan 30 oed ac mae'n dathlu'r hyn gyflawnodd y bardd a'r awdur o Dalacharn a ysgrifennodd y mwyafrif o'i waith gorau yn ei 20au.

Dywedodd Peter Florence bod y gystadleuaeth yn agored iawn gyda'r beirniaid i gyn yn ffafrio gwaith awduron.

"Dwi'n hynod ddiolchgar i'm cyd-feirniaid am eu gwaith.

"Mae'r wobr yma yn dathlu llwyddiant yr ysgrifenwyr ifanc."

Daw'r cyhoeddiad am yr enillydd yn benllanw wythnos o ddigwyddiadau lle mae'r awduron oedd ar y rhestr fer wedi bod yn rhan o weithdai mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol