'Blwyddyn o ddathlu' canmlwyddiant geni Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dylan thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y digwyddiadau yn y lleoedd gafodd y dylanwad mwyaf ar y bardd

Bydd blwyddyn o weithgareddau pan fydd canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn cael ei ddathlu yn 2014, medd y Gweinidog Busnes.

Bydd Gŵyl 100 Dylan Thomas yn cynnwys perfformiadau llwyfan, celfyddydau gweledol, comedïau, rhaglenni teledu, ffilmiau ac arddangosfeydd.

Y gweinidog, Edwina Hart, gyhoeddodd hyn ddydd Iau.

Bydd y digwyddiadau yn y lleoedd gafodd y dylanwad mwyaf ar y bardd, Uplands yn Abertawe, Talacharn a Cheredigion.

Ymhlith y gweithgareddau mae taith lenyddol ac arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, perfformiad llwyfan o "A Child's Christmas in Wales," a chynhyrchiad o "Under Milk Wood".

Dywedodd Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas a noddwr yr ŵyl: "Trwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau arloesol, hwyliog bydd 100 Dylan Thomas yn helpu ailgynnau diddordeb pobl yng ngweithiau fy nhad-cu.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ŵyl yn ffordd o gyflwyno ei weithiau amrywiol i gynulleidfaoedd newydd trwy gynyrchiadau radio, teledu, ar-lein, ffilmiau, llyfrau, mentrau academaidd, cynyrchiadau llwyfan, cerddoriaeth a'r celfyddydau."

Gŵyl gerdd

Bydd Gŵyl Gerdd a Chelfyddyd Abertawe yn cynnal gweithgareddau wedi'u seilio ar gynnyrch y bardd, gan gynnwys gwaith y cyfansoddwr Karl Jenkins a bydd Prifysgol Bangor yn cynnal pum cyngerdd arbennig.

Bydd "Crwydriadau Dylan," a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru, yn gyfres o deithiau llenyddol o amgylch Cymru ac Unol Daleithiau America i lefydd oedd wedi ysbrydoli'r bardd.

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru: "Syniadau creadigol a dehongliad enwog celfyddydol Cymru o waith Dylan Thomas fydd yn sail i raglen yr wyl.

"Byddwn yn defnyddio dulliau newydd i ddarganfod ac ail-ddarganfod gwaith Dylan Thomas a'r lleoedd sy'n gysylltiedig â'r gwaith.

"Rwy'n credu y bydd yn denu pobl o du hwnt i'r wlad i ddarganfod ein diwylliant rhagorol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol