Gwrthwynebu cynllun datblygu lleol Cyngor Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr yn RhuthunFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun wedi cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ninbych nos Wener i wrthwynebu cynlluniau i godi mil yn rhagor o dai ar draws Sir Ddinbych.

Yn ôl arolygwyr cynllunio, mae angen y cartrefi i ddiwallu anghenion y sir yn y dyfodol.

Ond mae rhai sy'n gwrthwynebu'n dweud nad oes angen y tai ac y bydden nhw'n amharu ar gymunedau gwledig.

O'r cychwyn cynta' mae 'na ddadlau wedi bod yn Sir Ddinbych, a'r cynlluniau i dreblu maint Bodelwyddan trwy godi 1,700 o dai newydd yn bwnc llosg amlwg.

7,500 o gartrefi

Ar draws y sir, mae tir ar gyfer 7,500 o gartrefi ychwanegol wedi'i glustnodi. Ond nawr mae arolygwyr cynllunio am i'r cyngor ddod o hyd i safleoedd ar gyfer mil yn rhagor.

Un o'r safleoedd newydd dan sylw ydy Brwcws ger Dinbych, lle y gallai 150 o dai gael eu codi mewn dau gae. Yma, fel mewn rhannau eraill o'r sir, mae 'na bryderon am effaith unrhyw dai ychwanegol.

Dywedodd Eiddwen Watkin, sydd wedi byw ym Mrwcws ers 27 o flynyddoedd, ei bod yn poeni oherwydd "nifer y ceir sy'n mynd i fyny ac i lawr y ffordd, y pellter i'r dref ei hun i bobl sy'n gorfod mynd i'r ysgol ac i siopa a chroesi'r ffordd fawr i wneud hynny.

"Dwi hefyd yn poeni am yr effaith ar yr iaith Gymraeg".

Mae 'na wrthwynebiad yn Rhuddlan hefyd, lleoliad posib ar gyfer 100 o dai newydd.

Is adeiladwaith

Yn ôl Arwel Roberts, Cynghorydd dros Ruddlan: "Lle mae'r is adeiladwaith ar gyfer y bobol yma? Byddai'r system ddim yn gallu ymdopi".

Ond yn ôl rhai sy'n gweithio ar y cynllun datblygu, maen nhw wedi ystyried nifer o ffactorau.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Wyn Williams, Aelod Arweiniol ar y Cynllun Datblygu: "Mae llawer o'r safleoedd yma ar rwydwaith ffordd dda iawn.

"Mae i fyny i'r cyngor plwy neu'r cyngor tref basio sylw ydyn nhw eisiau cynnwys y tir neu ddim".

Dyw sefyllfa Sir Ddinbych ddim yn unigryw - mae 'na ddadlau mewn siroedd fel Conwy a Wrecsam hefyd. Ac yn ôl rhai, dyw'r rhagolygon ar gyfer twf poblogaidd ddim yn realistig.

'Tanseilio'

Dywedodd Llŷr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru dros ogledd Cymru: "Mae 'na gwestiynau sylfaenol ynglŷn â'r modd y mae'r niferoedd yma yn cael eu cyrraedd atyn nhw.

"Mae'r gorddatblygu yma yn tanseilio hyfywedd cymunedau ar hyd a lled Cymru".

Mae 'na ymgynghoriad pellach newydd ddod i ben ond mae'r farn yn rhanedig ar beth i'w wneud â chaeau Sir Ddinbych.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r llywodraeth yn rhoi gorchmynion i awdurdodau lleol ar fater darpariaeth tai.

Arolygwr cynllunio annibynnol sy'n penderfynu a yw cynllun datblygu lleol yn dal dŵr, meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol