Cam-drin: Cyhuddo ar gam?
- Cyhoeddwyd
Mae honiadau newydd wedi dod i'r amlwg am ddyn sy'n cael ei amau o gam-drin plant mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Ar raglen Newsnight nos Wener diwethaf, honnodd Steve Messham iddo gael ei gam-drin gan wleidydd amlwg o gyfnod Thatcher na chafodd ei enwi.
Mae papur newydd y Guardian nawr wedi dweud na chafodd y cam-drin ei gyflawni gan y gwleidydd.
Dywed y papur ei bod hi'n bosib mai perthynas gyda'r un cyfenw a gyflawnodd y cam-drin, ac mae e bellach wedi marw.
Yn 2000, dywedodd adroddiad Waterhouse - yn dilyn ymchwiliad a sefydlwyd i'r honiadau o gam-drin yn y gogledd - bod tystiolaeth am bwy oedd yr ymosodwr yn amhendant.
Mae llywodraeth y DU wedi sefydlu ymchwiliad o'r newydd i honiadau o gam-drin yn y cartrefi gofal fydd yn cael ei arwain gan Keith Bristow o'r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.
Wrth son am yr eitem ar Newsnight lle gwnaeth Mr Messham yr honiadau, dywedodd y BBC: "Roedd yr ymchwiliad wedi bwriadu ymchwilio i fethiannau honedig yn yr ymchwiliad i gam-drin plant - yn benodol, a oedd y maes llafur cyfyng yn golygu bod cyfleoedd wedi cael eu methu i ddatgelu pobl eraill oedd yn rhan o'r peth.
"Fe wnaethon ni ddarlledu cymaint o wybodaeth a oedd yn bosibl yn seiliedig ar y dystiolaeth oedd ar gael i ni pan gafodd y rhaglen ei darlledu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012