Pennaeth am gyhoeddi adroddiad cam-drin

  • Cyhoeddwyd
Bryn Estyn yn 1992
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r honiadau o gam-drin yn ymwneud â chartref Bryn Estyn ymhlith eraill

Mae prif weithredwr cyngor yn dweud ei fod am gyhoeddi adroddiad i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru - adroddiad gafodd ei roi o'r neilltu flynyddoedd yn ôl.

Ond mae Colin Everett - prif weithredwr Cyngor Sir y Fflint - yn dweud y bydd angen cyngor cyfreithiol os daw copi o adroddiad Jillings o 1996 i'r fei.

Dywedodd ei bod yn debygol fod copi o'r adroddiad gan un o gynghorau'r gogledd - adroddiad na gafodd ei gyhoeddi oherwydd pryderon cyfreithiol.

Yn y cyfamser, mae papur newydd y Guardian wedi cyhoeddi honiadau am ddyn sy'n cael ei amau o gam-drin plant mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Ar raglen Newsnight nos Wener diwethaf, honnodd Steve Messham iddo gael ei gam-drin gan wleidydd amlwg o gyfnod Thatcher na chafodd ei enwi.

Mae papur newydd y Guardian nawr wedi dweud na chafodd y cam-drin ei gyflawni gan y gwleidydd.

Dywed y papur ei bod hi'n bosib mai perthynas gyda'r un cyfenw a gyflawnodd y cam-drin, ac mae e bellach wedi marw.

Clwyd

Os daw copi o adroddiad Jillings i'r fei, dywed Mr Everett y byddai'n rhaid i'r cyngor gael cyngor cyfreithiol tebyg i'r hyn gafodd yr hen Gyngor Clwyd er mwyn gweld faint o'r adroddiad y byddai modd cyhoeddi.

"Ein safbwynt ni fel cyngor, fel pob cyngor arall, fyddai ein bod am weithredu yn ysbryd y ddeddf (Rhyddid Gwybodaeth) ac y byddwn yn cefnogi rhyw fath o ddatgelu cyhoeddus os fydd y cyngor cyfreithiol yn caniatáu hynny," meddai.

Cafodd John Jillings ei gomisiynu i ymchwilio i honiadau o gam-drin yn 1994, ond ni chafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan fod cwmni yswiriant y cyngor yn poeni y gallai arwain at blant yn mynd i gyfraith er mwyn cael iawndal.

Ychwanegodd Mr Everett: "Mae pob un o gynghorau'r gogledd yn chwilio drwy eu harchifau er mwyn gweld beth sydd gan bwy.

"Mae'n debygol iawn bod copi gan un neu fwy o'r cynghorau.

"Ar yr un pryd, rydym yn derbyn cyngor cyfreithiol i weld os oes modd cyhoeddi'r adroddiad - mae hynny wrth gwrs yn dibynnu ar y cynnwys, a does llawer ohonom heb ei ddarllen oherwydd ei oed."

Tystiolaeth newydd

Yn y cyfamser, daeth honiadau newydd gan Sian Griffiths, a oedd yn gweithio i'r hen Gyngor Clwyd, am sut y cafodd ymchwiliad Waterhouse ei wneud.

Roedd Ms Griffiths yn gyfrifol am weinyddu'r ymchwiliad ar ran y cyngor, ac fe honnodd ar raglen newyddion Channel 4 bod y Ditectif Uwch-Arolygydd Peter Ackerley wedi cael cais i restru enwau pobl yr oedd yr heddlu wedi ymchwilio iddynt ac wedi eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron.

Ond dywedodd Ms Griffiths bod Syr Ronald Waterhouse wedi atal Mr Ackerley pan soniwyd am enw amlwg yn y llywodraeth.