Cymorth amrywiol i ddioddefwyr trais

  • Cyhoeddwyd
Women with head in handsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgychwyr yn galw am wella bywydau menywod sydd wedi diodde' trais

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod menywod sy'n diodde' trais yn wynebu "loteri cod post" wrth geisio cael cymorth.

Maen nhw wedi cyhoeddi adroddiad sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ateb y galw "brys" am wasanaethau arbenigol i gynorthwyo menywod i ail-adeiladu eu bywydau.

Bydd Grŵp Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru yn cwrdd â'r Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, ddydd Mercher.

Daw'r cyfarfod cyn i bapur gwyn ar fesur i fynd i'r afael â thrais yn y cartref gael ei gyhoeddi.

'Loteri'

Mae'r adroddiad yn galw am leihau pob math o drais yn erbyn menywod, nid dim ond trais yn y cartref gan bartner.

Mae'n dweud: "Mae yna loteri cod post o safbwynt darparu gwasanaethau i fenywod yng Nghymru, sy'n arwain at sefyllfa lle mae argaeledd y gefnogaeth yn dibynnu ar leoliad y fenyw, ac mae'n broblem yn enwedig i fenywod yng nghefn gwlad Cymru."

Mae'n cwyno hefyd am "wasanaethau prin" ar gyfer menywod du ac o leiafrifoedd ethnig.

Amcangyfrif yr ymgyrch yw y bydd dros 50,000 o fenywod yng Nghymru yn diodde' 203,075 o ddigwyddiadau o drais yn y cartref dros y flwyddyn nesaf, ond dim ond 3,385 o'r rhain fydd yn cael eu herlyn yn llwyddiannus.

'Cyfle gwych'

Dywedodd Naomi Brightmore, cadeirydd Grŵp Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camau da ar lefel polisi ar daclo trais yn erbyn menywod yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ac mae'r ddeddfwriaeth newydd yma yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i fenywod a phlant sy'n diodde' oherwydd trais a cham-drin."

Mae adran Mr Sargeant yn llunio deddfwriaeth fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gael strategaeth yn erbyn trais yn y cartref.

Er nad yw cyfraith droseddol yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae ffynnonellau o fewn Llywodraeth Cymru wedi sôn am yr angen i wella gwasanaethau "anghyson" sydd ar gael i gynorthwyo dioddefwyr.

Dywedodd Mr Sargeant bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â thrais yn erbyn menywod a thrais yn y cartref i ben.

"Mae digwyddiadau ar draws Cymru i siarad gyda rhanddeiliaid wedi bod yn digwydd, ac mae aelodau o Grŵp Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr," meddai.

"Mae barn pawb, ynghyd ag adroddiad cynhwysfawr gan grŵp arbenigol, wedi bod o gymorth mawr wrth ddatblygu'r papur gwyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol