Yr Eglwys yn trafod trais yn y cartref
- Cyhoeddwyd
Mewn digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod bydd menyw a gafodd ei cham-drin gan ei gŵr am bedair blynedd yn disgrifio sut y bu'n ymgodymu gyda dehongliadau Beiblaidd o briodas, ysgariad a maddeuant.
Mae'r fenyw yn un o'r siaradwyr mewn cynhadledd ddydd Llun a drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o gam-drin yn y cartref a sut y gall eglwysi ymateb iddo.
Trefnir y gynhadledd gan yr Eglwys yng Nghymru mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill yn cynnwys MIND Cymru, Cymorth i Fenywod Cymru, Eglwys Sant Ioan Caerdydd, Undeb y Mamau Cymru a Choleg Mihangel Sant Llandaf gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod.
'Tanseilio cyfiawnder personol'
Dywedodd y Parch Carol Wardman, Cynghorydd Eglwys a Chymdeithas i'r Esgobion: "Gall menywod o bob cefndir ddioddef camdriniaeth ofnadwy yn y cartref, tu ôl i ddrysau caeedig.
"Yn aml deuant i'r eglwys i edrych am help neu ddim ond i ddianc ac mae angen i ni fod yn gwybod sut i ymateb iddynt yn y modd cywir.
"Rydym eisiau i eglwysi anfon y neges y gall menywod ddod ymlaen ac y cânt eu cymryd o ddifrif a chael y gefnogaeth maent ei hangen.
"Mae trais, ymddygiad ymosodol a bwlio, yn arbennig mewn perthynas a ddylai gael ei nodweddu gan gariad a gofal, yn arswydus o groes i egwyddorion Cristnogol cariad a rhyddid rhag ofn, ac yn tanseilio cyflawnder personol ac ysbrydol yn ogystal â diogelwch personol, parch a hunan-dyb."
Hefyd yn siarad yn y digwyddiad mae Hannah Austin, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Cymorth i Fenywod Cymru.
Cynhelir y gynhadledd, sy'n rhad ac am ddim, yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Caerdydd rhwng 2pm a 5pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012