April Jones: Tywysog yn diolch i dimau achub

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Aeth April Jones ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1

Mae Dug Caergrawnt wedi diolch i dimau achub mynydd am eu hymdrechion wrth chwilio am y ferch fach bump oed, April Jones, aeth ar goll ger ei chartref ym Machynlleth.

Mewn llythyr at Wasanaeth Achub Mynydd Cymru a Lloegr, mae'r Tywysog William wedi canmol "proffesiynoldeb eithriadol" y timau ddaeth i Fachynlleth.

Mae'r tywysog yn gweithio fel peilot hofrennydd achub ar Ynys Môn.

Mae'r chwilio'n parhau am April, aeth ar goll ar Hydref 1. Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi ei gyhuddo o'i herwgipio a'i llofruddio.

Yn ei lythyr, dywed y tywysog: "Dro ar ôl tro rwy'n teimlo'n falch o'n timau achub mynydd - eich hymroddiad, eich proffesiynoldeb eithriadol.

"Roedd hyn mor amlwg ag erioed yn y chwilio diweddar am April Jones a gafodd ei chipio mor ofnadwy oddi wrth ei theulu.

"Mae achosion proffil uchel fel hyn yn atgof i ni gyd o'r hyn y mae timau achub mynydd yn ei wneud bob dydd.

"Rwy'n siwr fod y chwilio am April wedi bod yn un o'r anoddaf, ac rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd iddi.

"Ni allaf eich canmol yn ddigonol am eich gwaith caled a dyfalbarhad - rydym mor ffodus i gael pobl fel chi yn ein cymunedau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth timau achub mynydd o bob cornel i gynorthwyo gyda'r chwilio

Mae gan y tywysog berthynas agos gyda thimau achub mynydd ar draws Prydain, nid yn unig fel peilot hofrennydd ond fel noddwr elusen Achub Mynydd Cymru a Lloegr.

Daeth dros 20 o dimau o wirfoddolwyr achub mynydd i gynorthwyo gyda'r chwilio am April, a hynny o Gymru a Lloegr.

Dywedodd Dion Jones, un o gydlynwyr Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn, bod y llythyr wedi ei werthfawrogi'n fawr.

"Mae'n anrhydedd pan mae rhywun mor bwysig yn gweld beth ydym yn ei wneud ac yn sylweddoli'r ymroddiad sydd angen," meddai.

"Roedd yn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n amcangyfrif ein bod wedi cyfrannu tua 600 awr o waith rhyngddom rhwng y nos Fawrth a'r dydd Sul canlynol.

"Fe wnaeth nifer o'r aelodau gael amser i ffwrdd o'u gwaith er mwyn cymryd rhan yn y chwilio."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol