Arbenigwyr yr heddlu sy' chwilio am April Jones ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April Jones ei chipio nos Lun

Arbenigwyr yr heddlu sy'n chwilio am April Jones, y ferch 5 oed o Fachynlleth, erbyn hyn.

Cafodd April ei chipio ger ei chartref ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth tua 7pm nos Lun diwethaf.

Mae Mark Bridger wedi ymddangos o flaen ynadon Aberystwyth ddydd Llun wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae o wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Nos Sul, cafwyd cadarnhad na fydd y timau achub mynydd yn parhau gyda'r gwaith o chwilio am April.

Yn hytrach fe fydd y gwaith yn cael ei wneud gan swyddogion arbenigol yr heddlu.

Ond fe fyddan nhw'n ail ymuno â'r chwilio petai'r heddlu yn galw am eu cymorth.

Am 7pm nos Lun, union wythnos ers i April gael ei chipio, fe fydd rhieni April, Coral a Paul Jones, yn goleu lluseren bapur yng ngaredd eu cartref.

Maen nhw'n galw ar ffrindiau, cymdogion ac unrhyw un arall wneud yr un peth, a hynny lle bynnag y maen nhw, drwy oleuo cannwyll.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Ian John eu bod wedi dyblu nifer y swyddogion sy'n rhan o'r chwilio.

"Mae 'na 18 o dimau, 100 o heddweision yn chwilio am April," meddai.

Timau arbennig

"Roedd 10 o dimau yn gweithio dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Parhau i archwilio Afon Dyfi y mae arbenigwyr

"Mae swyddogion arbennig wedi dod yma o bob cwr o Brydain," ychwanegodd.

Mae'r timau yn cynnwys arbenigwyr gyda chŵn.

"Rydym yn archwilio rhan eang ond yn canolbwyntio ar y dref ac Afon Dyfi," meddai Mr John.

"Mae'r timau hefyd yn mynd dros yr un llefydd hefyd rhag ofn ein bod wedi colli rhywbeth.

"Rydym yn gwbl ymroddedig i ddod i ganlyniad."

Ychwanegodd eu bod yn dal wedi eu lleoli yng Nghanolfan Hamdden y dref, ond yn prysur symud i Blas Machynlleth, er mwyn rhoi'r ganolfan yn ôl i bobl y dref.

Cefnogaeth

Mae tua 30 a 40 o aelodau gwylwyr y glannau yn rhan o'r chwilio ddydd Llun.

Fe ymunodd criwiau o Aberdyfi, Aberystwyth, Cei Newydd a'r Borth ag aelodau o Aberdaron, Bangor, Penmon, Glannau Dyfrdwy a'r Rhyl.

Mae'r chwilio yn parhau ar hyd Afon Dyfi a'r aber.

Dywedodd gwirfoddolwyr sy'n rhan o Dîm Achub Aberdyfi eu bod yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod y dyddiau diwethaf.

"Mae'r gefnogaeth gan aelodau'r cyhoedd wedi bod yn rhyfeddol," meddai Nick Mortley o'r tîm.

"Mae hyn wedi cael effaith ar forâl y tîm.

"Fe hoffai'r holl wirfoddolwyr ddiolch am y gefnogaeth, i'r gweithwyr yn y ganolfan hamdden am ein bwydo a'n cefnogi."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol