Hwb fawr i gynllun Yr Ysgwrn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i gadw a datblygu Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn, fel amgueddfa a chanolfan ddehongli wedi cael grant o £149,700.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu'r grant gan roi caniatâd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddatblygu cynlluniau ar gyfer y ffermdy rhestredig Gradd ll, tir y fferm a'r casgliadau sy'n berthnasol i Hedd Wyn.
Maen nhw hefyd wedi rhoi pas rownd gyntaf y broses gais, sy'n golygu bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gallu symud ymlaen i'r ail rownd.
Mae ganddynt ddwy flynedd i gyflwyno cynlluniau manylach a gwneud cais am y gweddill o'r £2.7m y maent wedi gofyn amdano gan y gronfa ar gyfer y prosiect.
Credir fod Yr Ysgwrn, ger Trawsfynydd, yn dyddio'n ôl i 1519.
Roedd yn gartref i'r bardd Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn - a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw yn 1917 am ei awdl, "Yr Arwr".
Cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn yr Eisteddfod.
Themâu allweddol
Dywedodd Dr Manon Williams, Cadeirydd CDL: "Mae'r Ysgwrn yn cynrychioli cynifer o themâu allweddol yn ein treftadaeth, o lenyddiaeth i ffermio traddodiadol, ac rydyn ni'n cefnogi cynlluniau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i agor y safle i gynulleidfa ehangach gael archwilio'r stori.
"Mae Hedd Wyn yn un o arwyr Cymru ac mae'n gweddu i'r dim bod y prosiect yma'n cael ei ddatblygu mewn pryd ar gyfer digwyddiadau coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
"Roedd y cynlluniau ar gyfer y cipolwg prin yma o Gymru wledig yr 20fed ganrif wedi creu cryn argraff arnon ni, gyda'i gyfleoedd dysgu helaeth er mwyn i bobl ymddiddori yn eu treftadaeth tra'n sicrhau ei fod yn cael ei gadw ar gyfer y dyfodol.
"Rydyn ni wedi rhoi pas rownd gyntaf mewn cydnabyddiaeth o botensial y prosiect a'r buddiannau y gallai eu creu yn yr ardal leol ac yng Nghymru gyfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012