Sir Ddinbych yn cynnal dau adolygiad o ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth gwag (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd un adolygiad yn edrych yn fanwl ar y materion sy'n wynebu ysgolion yn ardal Rhuthun

Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu cynnal dau adolygiad o ddarpariaeth ysgolion.

Bydd yr adolygiad cyntaf yn ystyried y ddarpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun, gyda'r ail yn ystyried addysg ffydd yn y sir.

Nod posib yr ail fydd creu un ysgol i ddarparu addysg eglwysig a Phabyddol ar y cyd.

Fe fydd yr adolygiad cyntaf yn ystyried yr hyn sy'n wynebu 11 ysgol gynradd yn ardal Rhuthun.

Er bydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth gynradd, bydd yn ysstyried effaith ewidiadau ar ddarpariaeth uwchradd.

Yr 11 ysgol gynradd yn yr ysgol yw Ysgol Borthyn, Ysgol Bro Famau, Ysgol Clocaenog, Ysgol Cyffylliog, Ysgol Gellifor, Ysgol Llanbedr, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Pen Barras, Ysgol Pentrecelyn, Ysgol Rhewl ac Ysgol Stryd Y Rhos.

Cyn y cyfarfod dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'n bwysig ar hyn o bryd nodi mai dim ond ystyried rhoi caniatâd i gychwyn adolygiad mae'r cabinet ac ni fydd unrhyw benderfyniadau eraill yn cymryd lle ddydd Mawrth."

Bydd y cyngor yn ymgynghori rhwng Rhagfyr 6 a Ionawr 29 y flwyddyn nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol