Dadl am ddarpariaeth y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, wedi arwain trafodaeth am yr iaith Gymraeg yn San Steffan ddydd Mawrth.
Testun y drafodaeth oedd y ddarpariaeth Gymraeg yn adrannau llywodraeth y DU sydd heb eu datganoli.
Honnodd fod y mesur diweddara' wedi gwanhau statws yr iaith yn yr adrannau hynny.
Mae Swyddfa Cymru wedi dweud y bydden nhw'n cynnal adolygiad er mwyn asesu a oedd adrannau'n dilyn y safonau angenrheidiol.
Gan fod Comisiynydd y Gymraeg yn cadw golwg ar feysydd datganoledig, meddai'r AS, roedd statws yr iaith yn wannach mewn meysydd sy' ddim wedi eu datganoli.
Honnodd nad oedd llawer o adrannau'n gwybod am y mesur diweddara' a bod nifer yn cyfeirio at eu cydberthynas â Bwrdd yr Iaith.
Wrth ymateb, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, "eu bod yn gwbl ymroddedig" i'r defnydd o'r iaith mewn meysydd sy' ddim wedi eu datganoli.
"Yn sicr, mae lle i wella ond bydd Swyddfa Cymru'n fodlon darparu'r gefnogaeth angenrheidiol."