Cynghorwyr Sir Gâr yn gwrthod cynllun fferm wynt
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod cais dadleuol i godi fferm wynt lle byddai 21 o dyrbinau.
Clywodd y cyfarfod fod gwrthwynebwyr yn poeni am sŵn ac effeithiau ar y tirlun ac ar dwristiaeth.
Dywedodd cwmni RES y byddai'r ardal yn elwa ar brisiau trydan rhatach.
Pan gyhoeddwyd y penderfyniad roedd curo dwylo yn yr oriel orlawn.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod caniatâd cynllunio i'r cynllun i godi'r tyrbinau ar Fynydd Llanllwni ger Llanybydder.
Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, John Jones sy'n rhedeg Tafarn y Talardd: "Mae hyn yn wych ... fe lwyddon ni i ga'l pawb ar ein hochor ni, y cynghorwyr sir, y cynghorwyr lleol, y bobol leol ...
"Ond dyw'r ymgyrch ddim ar ben."
'Siomedig'
Dywedodd Richard Evans, pennaeth datblygu'r cwmni: "Rydyn ni'n siomedig.
"Roedd y cais yn gryf ... aeth y cyngor yn erbyn polisi Cymru."
Aeth cynghorwyr i'r safle arfaethedig fore Mawrth cyn y cyfarfod.
Roedd y cyngor wedi derbyn 370 o lythyrau yn erbyn y cais i godi'r tyrbinau ar dir fferm Bryn Llywelyn.
Mae'r safle o fewn ardal Tan 8.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi Tan 8, cyfyngu datblygiadau ffermydd gwynt enfawr i saith ardal benodol yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012