Yr economi yn hawlio sylw Cyngor Prydain Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu gweinidogion yn trafod yr economi ddydd Llun

Mae gweinidogion gwledydd Prydain ac Iwerddon wedi bod yn trafod yr economi mewn uwchgynhadledd yng Nghaerdydd.

Daeth y cyfarfod yng nghastell y brifddinas i ben amser cinio ddydd Llun.

Dyma'r trydydd tro i'r gweinidogion gyfarfod yng Nghymru ers ei sefydlu fel rhan o broses heddwch Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r llywodraethau datganoledig, mae'r Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey.

Yr economi a hawliodd y sylw ddydd Llun, gyda dirprwy-Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, yn cyfeirio at ddatganiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb ar Ragfyr 5 fel cyfle i gyhoeddi rhagor o fesurau i hybu cyfalaf.

2013

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod y gweinidogion wedi penderfynu y byddai'r uwchgynhadledd nesaf, yn Derry yn 2013, yn canolbwyntio ar bolisi ynni'r gwledydd.

Yn ôl Enda Kenny, Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, mae 'na "wir botensial" i Iwerddon allforio ynni adnewyddol i Brydain o ffermydd gwynt yn y môr.

Cyn yr uwchgynhadledd yng Nghaerdydd, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn awyddus i rannu syniadau am sut y gallai prosiectau isadeiledd roi hwb i'r economi.

Roedd addysg hefyd ar agenda Cyngor Prydain Iwerddon.

Daeth y cyfarfod wedi newyddion cymysg i'r economi yng Nghymru.

Roedd yr ystadegau diweddara yn dangos 5,000 yn llai yn nifer y di-waith yn y tri mis hyd at fis Medi.

Ond ddiwedd yr wythnos diwethaf cyhoeddodd cwmni dur Tata eu bod am gael gwared ar bron i 600 o swyddi yng Nghymru.

Roedd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai argymhellion Comisiwn Silk ynglŷn â rhoi pwerau trethu i'r Cynulliad yn rhan o'r agenda, ond ei bod yn debygol y byddai'r pwnc yn cael ei drafod yn anffurfiol.

Cyn y cyfarfod dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr y gwahanol lywodraethau er mwyn trafod yr her sy'n wynebu'r economi.

"... mae'n llwyfan pwysig er mwyn rhannu profiadau, a thrafod y ffordd orau o weithio gyda'n gilydd."