Tata: Colli bron i 600 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 500 o swyddi yn diflannu yn Port Talbot

Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y bydd 500 o weithwyr yn colli eu gwaith yng ngwaith dur Port Talbot.

Ddydd Gwener cyhoeddodd y cwmni 900 o ddiswyddiadau mewn 12 safle ledled Prydain.

Mae tua o swyddi yn y fantol yng Nghymru yng Nghymru, gyda safle Tafarnaubach a Cross Keys yn cau yn gyfan gwbl.

Ond cyhoeddodd y cwmni y bydd 120 o swyddi yn cael eu creu yn safle Llanwern a 38 yn Shotton yn Sir Y Fflint..

Yn ôl Tata bydd y rhan fwyaf o ddiswyddiadau yng Nghymru yn swyddi rheolwyr a gweinyddwyr.

'Lleihau'r ergyd'

Mae Tata wedi cadarnhau y bydd y ffwrnais newydd ym Mhort Talbot yn ailddechrau cynhyrchu'r flwyddyn nesaf.

Cafodd y ffwrnais ei chodi ar ôl buddsoddiad o £250 miliwn.

"Mae'r diswyddiadau yn anffodus ond fe fydd yr argymhellion i ailstrwythuro yn gwneud y busnes yn fwy cynaliadwy. Rydym yn gwybod fod hyn yn amser anodd i'r gweithwyr a'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio, " meddai llefarydd ar ran Tata.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r ergyd, a phan yn bosib byddwn yn gobeithio sicrhau diswyddiadau gwirfoddol."

Ychwanegodd y bydd £650,000 yn cael ei roi i gronfa arbennig er mwyn ceisio creu swyddi newydd yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio.

Ymateb

Dywedodd undeb Unite, sy'n cynrychioli rhai o'r gwaethwyr, fod heddiw yn 'ddiwrnod du' i'r diwydiant dur yng Nghymru.

Dywedodd Andy Richards, ysgrifennydd Unite yng Nghymru: "Mae'r cyhoeddiad yn ergyd fawr i'r gweithwyr ac i'r cymunedau lleol, a hynny'n enweidg gan ein bod yn agosau at y Nadolig."

Cafodd y penderfyniad ei ddisgrifio fel ergyd drom gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu tasglu ar y cyd gyda Tata er mwyn rhoi cefnogaeth i'r gweithwyr.

"Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu'r her sy'n wynebu cwmnïau cynhyrchu yn yr hinsawdd economaidd.

"Yn ogystal â hyn, mae'n amlwg bod ansicrwydd ynglŷn â pholisi ynni Llywodraeth San Steffan yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi cwmnïau.

"Rydym wedi rhybuddio ers peth amser am yr angen i leihau costau o'r fath."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Mae colli dros 500 o swyddi yn ein hatgoffa o'r her sy'n wynebu cwmnïau ledled y byd.

"Mae'n rhaid i lywodraethau San Steffan a Chaerdydd ffocysu ar yr economi ac rwyf wedi ymroi i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes hwn."

Meddai Hedley McCarthy, arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae hyn yn amlwg yn newyddion siomedig i'n cymunedau. Ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gefnogi pawb sy'n rhan o hyn. Byddwn yn darparu cymaint o arweiniad a chefnogaeth â phosib i'r rhai sy'n teimlo effaith hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol