Rhybuddion llifogydd difrifol ar Afon Elwy
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi dau rybudd llifogydd difrifol wrth i afon orlifo ei glannau.
Mae'r ddau rybudd, llifogydd difrifol, perygl i fywyd, ar Afon Elwy yn Llanelwy ac o'r A55 i Ruddlan ger Parc Roe, Hen Waliau a'r Parc Busnes yn y ddinas.
Cododd lefel Afon Elwy yn ystod y bore ac mae'r gwasanaethau brys wedi cynghori a symud cannoedd o bobl o'u cartrefi yn ninas Llanelwy ers oriau.
Mae tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, wedi diodde' ac mae canolfan frys wedi ei sefydlu yn y ganolfan hamdden.
Y disgwyl ydi y bydd y llifogydd ar eu gwaetha wrth i'r llanw ddod i mewn tua hanner dydd.
Mae'r sefyllfa yn wael iawn yn ardal Rhuthun fore Mawrth gyda cheir o dan ddŵr a thua 50-60 o dai ar stad Glasdir wedi eu heffeithio.
'Difrifol'
Dywedodd y cyngor y gallai hyd at 400 o dai wynebu risg a bod nifer o drigolion wedi mynd i'r ganolfan hamdden.
Mae 'na lifogydd hefyd yn Llanfairtalhaearn, Llangernyw a Llansannan, Sir Conwy, a chafodd canolfan arbennig ei hagor yn Neuadd Goffa, Llanfairtalhaearn.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod y sefyllfa yn Llanfairtalhaearn yn "ddifrifol".
Yn Rhuddlan mae lefel yr afon yn uchel ac mae pobl yn cael eu symud o tua 15 o adeiladau yn y dref.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod Afon Elwy wedi gorlifo'r amddiffynfeydd llifogydd yng ngogledd Llanelwy.
'Amddiffyn pobl'
"Mae trigolion mewn hyd at 500 o dai yng ngwaelodion y ddinas wedi cael eu rhybuddio o'r sefyllfa drwy ddefnyddio System Rybuddio Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae'r gwasanaethau brys hefyd wedi bod yn hysbysu trigolion o'r peryg o lifogydd.
"Mae trigolion yn cael eu hannog i adael eu cartrefi i aros gyda theulu a ffrindiau, neu i fynychu canolfan orffwys sydd wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Ddinbych yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o'r Groes Goch Brydeinig."
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Peter Newton o Heddlu'r Gogledd: "Mae ymateb brys wedi bod ar waith oherwydd y tywydd gwael er mwyn rhoi blaenoriaeth i unrhywun sy' mewn perygl.
"Ein blaenoriaeth yw amddiffyn pobl ac rydym yn cydweithio gyda'r asiantaethau eraill."
Dywedodd fod y gwasnaeth tân ac achub yn gweithio hyd yr eithaf.
"Ers 6pm neithiwr maen nhw wedi derbyn mwy na 130 o alwadau ... ac mae diffoddwyr yn ymateb i alwadau brys yn yr holl ardal.
"Dylai pobl ffonio'r gwasanaeth os yw pobl mewn perygl ... bydd hyn yn ein helpu ni i flaenoriaethu galwadau."
Trafferthion ffyrdd
Oherwydd y llifogydd cafodd sawl ysgol eu cau ddydd Mawrth, gan gynnwys Ysgol Talhaearn, Ysgol Llanefydd, Ysgol Bro Cernyw, Ysgol Bro Aled, Llansannan, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Yn y cyfamser, mae 'na rybuddion llifogydd hefyd yn Nyffryn Conwy; Afon Rhyd-Hir ar gyrion Pwllheli ac ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer yn ogystal ag Afon Rhydeg yn Ninbych-y-Pysgod.
Mae llifogydd yn achosi trafferthion hefyd yn Llanrwst.
Gwasanaeth bws sydd ar gael yn hytrach na threnau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.
Mae'r gwasanaethau trên wedi ei atal rhwng Caergybi a Bangor oherwydd bod y dŵr yn dal i godi a gorchuddio'r cledrau.
Mae 'na gyngor mewn 24 ardal arall i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth.
Oherwydd y llifogydd mae 'na nifer o ffyrdd wedi cael eu heffeithio.
Bod yn ofalus
Mae'r B5381 Ffordd Isaf Dinbych yn Llanelwy wedi cau yn ogystal â Ffordd Graig yn Ninbych.
Ffyrdd eraill sydd wedi cau oherwydd y tywydd ydi'r A4086 Pen-Y-Pass i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4547 (Llanberis) a A498 (Nant Peris); A5 ger yr A470 Pont Waterloo; yr A5 i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4401 (Corwen) a A494 (Dwyryd).
Yr A525 i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A55 (Cyffordd 27 Llanelwy) a'r A547 (Rhuddlan); B548 rhwng Abergele a Llanrwst; B5106 Llanrwst i Drefriw; A544 yn Llansannan a'r brif ffordd i mewn i Eglwysbach, Conwy, o Dal y Cafn (Ffordd Tŷ Gwyn).
Mae 'na ddŵr ar nifer o ffyrdd llai a dylai gyrwyr fod yn ofalus.
Fe fydd y tywydd yn gwella yn ystod y dydd wrth i'r glaw gilio ond fe fydd yn cymryd peth amser i lefelau dŵr yn yr afonydd ostwng.
"Yn ôl y rhagolygon fe fydd y glaw yn troi yn ysgafnach yn ystod y bore ac wedi clirio erbyn y prynhawn gan droi'n sych ar y cyfan," meddai Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.
"Fe fydd hi'n dal yn eitha' gwyntog ac mae disgwyl cawodydd rhwng Ynys Môn a Sir Benfro, cawodydd gaeafol uwchben rhyw 700 metr."
Os yw unrhyw un yn poeni am lifogydd yn eu hardal, y cyngor ydi ffonio llinell wybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188 gan ddefnyddio'r rhif 191907 am y wybodaeth ddiweddaraf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012