Symud rhai o bobl Llanelwy a Rhuthun o'u cartrefi oherwydd llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd ddydd Mawrth yn Llanelwy yn gorchuddio ffyrdd i mewn i'r ddinas

Wrth i fwy o law ddisgyn mae'r llifogydd yn achosi trafferthion yn y gogledd.

Mae'r sefyllfa yn wael iawn yn ardal Rhuthun bore Mawrth gyda cheir o dan ddŵr a thua 50-60 o dai ar stad Glasdir wedi eu heffeithio.

Caiff y trigolion gymorth i symud i ddiogelwch yno ac wrth i lefelau Afon Elwy godi mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cynghori a symud cannoedd o bobl o'u cartrefi yn ninas Llanelwy yn ystod yr oriau diwethaf.

Mae tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, wedi diodde' o lifogydd ac mae canolfan frys wedi ei sefydlu yno.

Mae 'na lifogydd hefyd yn Llanfairtalhaearn, Llangernyw a Llansannan, Sir Conwy.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod y sefyllfa yn Llanfairtalhaearn yn "ddifrifol".

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn gafodd ymateb Darren Booth-Taylor, Prifathro Ysgol Talhaearn yn Llanfairtalhaearn sydd wedi gorfod cau oherwydd y llifogydd ddydd Mawrth.

Oherwydd y llifogydd mae sawl ysgol wedi cau gan gynnwys Ysgol Talhaearn, Ysgol Llanefydd, Ysgol Bro Cernyw, Ysgol Bro Aled, Llansannan, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod Afon Elwy wedi gorlifo'r amddiffynfeydd llifogydd yng ngogledd Llanelwy.

"Mae trigolion mewn hyd at 500 o dai yng ngwaelodion y ddinas wedi cael eu rhybuddio o'r sefyllfa drwy ddefnyddio System Rybuddio Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae'r gwasanaethau brys hefyd wedi bod yn hysbysu trigolion o'r peryg o lifogydd.

"Mae trigolion yn cael eu hannog i adael eu cartrefi i aros gyda theulu a ffrindiau, neu i fynychu canolfan orffwys sydd wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Ddinbych yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o'r Groes Goch Brydeinig."

Mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro'r sefyllfa.

Mae nifer o bobl wedi mynd i'r ganolfan frys.

Trafferthion ffyrdd

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai o bobl Llanelwy eu hachub gan ganŵ

Yn y cyfamser, mae 'na rybuddion llifogydd hefyd yn Nyffryn Conwy; Afon Rhyd-Hir ar gyrion Pwllheli ac ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer yn ogystal ag Afon Rhydeg yn Ninbych-y-Pysgod.

Mae llifogydd yn achosi trafferthion hefyd yn Llanrwst.

Gwasanaeth bws sydd ar gael yn hytrach na threnau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.

Mae'r gwasanaethau trên wedi ei atal rhwng Caergybi a Bangor oherwydd bod y dŵr yn dal i godi a gorchuddio'r cledrau.

Mae 'na gyngor mewn 24 ardal arall i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth.

Oherwydd y llifogydd mae 'na nifer o ffyrdd wedi cael eu heffeithio.

Diwrnod i wella

Mae'r B5381 Ffordd Isaf Dinbych yn Llanelwy wedi cau, yn ogystal â Ffordd Graig yn Ninbych.

Ffyrdd eraill sydd wedi cau oherwydd y tywydd ydi'r A4086 Pen-Y-Pass i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4547 (Llanberis) a A498 (Nant Peris); A5 ger yr A470 Pont Waterloo; yr A5 i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4401 (Corwen) a A494 (Dwyryd).

Yr A525 i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A55 (Cyffordd 27 Llanelwy) a'r A547 (Rhuddlan); B548 rhwng Abergele a Llanrwst; B5106 Llanrwst i Drefriw; A544 yn Llansannan a'r brif ffordd i mewn i Eglwysbach, Conwy, o Dal y Cafn (Ffordd Tŷ Gwyn).

Mae 'na ddŵr ar nifer o ffyrdd llai gyda'r cyngor i deithwyr fod yn ofalus.

Fe fydd y tywydd yn gwella yn ystod y dydd wrth i'r glaw gilio.

Ond fe fydd yn cymryd peth amser i lefelau dŵr yn yr afonydd ostwng.

"Yn ôl y rhagolygon fe fydd y glaw yn troi yn ysgafnach yn ystod y bore ac wedi clirio erbyn y prynhawn gan droi'n sych ar y cyfan," meddai Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.

"Fe fydd hi'n dal yn eitha' gwyntog ac mae disgwyl cawodydd rhwng Ynys Môn a Sir Benfro, cawodydd gaeafol uwchben rhyw 700 metr."

Os oes gan unrhyw un bryderon am lifogydd yn eu hardal, y cyngor ydi ffonio llinell wybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188 gan ddefnyddio'r rhif 191907 am y wybodaeth ddiweddaraf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol