Llifogydd: Cannoedd wedi dioddef

  • Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff menyw wrth i bobl geisio cynnig cymorth yn y llifogydd yng ngogledd Cymru.

Mae'r adroddiadau diweddaraf yn awgrymu bod oddeutu 400 o gartrefi wedi dioddef yn Llanelwy, Sir Ddinbych.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych bod y sefyllfa "yn sefydlogi ac mae'r afonydd wedi peidio gorlifo".

Cafodd ardaloedd eraill megis Rhuthun a Rhuddlan eu taro gan y llifogydd yn ogystal.

Dywedodd y Groes Goch bod 130 wedi mynd i Ganolfan Hamdden Llanelwy i gael lloches o'r llifogydd yn ystod y dydd, a bod pob un wedi cael lle i dreulio'r noson.

Roedd wyth o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Llanelwy ddydd Mawrth, gyda phedwar arall yn Rhuthun ac un arall yn Rhuddlan.

Mae ymdrechion hefyd i gadw'r ffordd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn glir.

Lloches

Bydd Ysgol Glan Clwyd ar gau ddydd Mercher gan fod rhannau o'r ysgol yn cael eu defnyddio fel lloches argyfwng i drigolion dinas Llanelwy.

Cyhoeddodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, y bydd yn trefnu cyfarfod argyfwng yn Llanelwy ddydd Mercher i drafod y gwaith o lanhau'r llanast.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet: "Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer o bobl nid yn unig yn Llanelwy, Rhuthun a Rhuddlan ond mewn cymunedau eraill hefyd.

Ffynhonnell y llun, Rhian Gwawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o'r A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw wedi cau oherwydd tirlithriad

"Er ein bod yn dal yn y cyfnod o ymateb i'r llifogydd, rydym eisoes yn ystyried y gwaith o lanhau.

"Mae grwpiau wedi cael eu sefydlu ymhob ardal i ystyried blaenoriaethau fel lles a hylendid, glanhau a lloches dros dro i bobl sydd angen cartref.

"Rydym wedi derbyn nifer o gynigion caredig gan y cyhoedd, grwpiau gwirfoddol a chynghorau eraill sy'n gymdogion i ni, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cynigion."

Dau rybudd

Bu'r gwasanaethau brys yn gweithio ers yr oriau man pan orlifodd Afon Elwy yn y ddinas.

Mae dau rybudd llifogydd difrifol (sy'n gallu peryglu bywyd) yn dal yn weithredol ar ddwy ran o'r afon.

Mewn rhannau o Lanelwy, cododd lefel y dŵr i hyd at saith troedfedd, a dywedodd y gwasanaethau brys nos Fawrth eu bod yn dal i chwilio adeiladau yn yr ardal rhag ofn bod pobl fregus yn dal yn eu cartrefi mewn ardaloedd sydd wedi diodde' llifogydd.

Mae nifer o ffyrdd yn yr ardal wedi eu cau - rhai oherwydd y tywydd a'r A548 rhwng Llanrwst a Llanefydd oherwydd tirlithriad.

Yn ôl rhagolygon y tywydd, bydd y glaw yn peidio ond y tywydd yn troi'n oerach dros y dyddiau nesaf, ond mae risg o hyd o ddŵr yn llifo o'r bryniau gan achosi llifogydd mewn mannau.