Leveson o blaid corff annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae Adroddiad Leveson am safonau'r wasg wedi galw am sefydlu corff annibynnol i oruchwylio papurau newydd.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Leveson fod angen hunan-reolaeth fwy llym er mwyn cynnal safonau.
Ond dywedodd fod y wasg wedi anwybyddu cod ymddygiad ei hun ac wedi "creu anhrefn" ym mywydau pobl ddiniwed.
Beirniadodd y berthynas "afiach" ddatblygodd rhwng gwleidyddion a'r Wasg dros gyfnod o 30 mlynedd.
"Bydd y cynigion yn amddiffyn hawliau dioddefwyr a'r rhai sy'n cwyno," meddai.
Dywedodd fod y wasg y rhan fwyaf o'r amser "yn gwasnaethu'r cyhoedd yn dda iawn" ac "yn amddiffyn democratiaeth a lles y cyhoedd".
Roedd angen hunan-reolaeth yn y diwydiant, meddai, ond gyda chyfraniad unigolion nad oedden nhw'n cyhoeddi papurau newydd - a threfn fyddai'n gwarchod rhyddid y wasg ond hefyd fuddiannau pobol fyddai'n cwyno.
'Annibynnol'
Pwysleisiodd fod angen "trefn effeithiol ac annibynnol" ond gyda sail cyfreithiol fyddai'n rhoi'r hawl i unioni cam heb fynd trwy'r llys.
Dywedodd Plaid Cymru fod yr adroddiad yn "adleisio'r hyn yr oeddem yn gobeithio ei glywed".
"Mae'n hollbwysig" meddai'r arweinydd Seneddol, Elfyn Llwyd, fod y Llywodraeth yn rhoi'r argymhellion ar waith ar frys.
"Mae'r wasg yn un o nifer o sefydliadau sydd wedi colli enw da mewn blynyddoedd diweddar yn sgil sgandal, llygredd ac arfer anghyfreithlon.
"Yn union fel yn achos y banciau, mae niwed mawr wedi ei wneud i ymddiriedaeth y cyhoedd ac mae angen diwygio sylweddol er mwyn adfer hyder yn y wasg.
"Mae Plaid Cymru'n awyddus i weld corff rheoleiddio newydd grymus sy'n gweithio er lles y cyhoedd."
Dywedodd fod y PCC, y corff presennol, yn gwbl aneffeithiol a biwrocrataidd ac y byddai model amgen yn cynnig proses gyflymach a symlach o wneud cwynion.
'Dim tystiolaeth'
"Credwn y byddai rheoleiddio gan y wladwriaeth neu'r diwydiant ei hun yn methu darparu gwir atebolrwydd."
Dywedodd Aled Roberts AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Rydan ni fel plaid yn awyddus i weithredu ar yr argymhellion. Mae ein barn yn eitha' pendant.
"Mae cynllun tebyg ar waith yn Iwerddon, un sy'n gweithio'n effeithiol."
Mae'r adroddiad wedi dweud "nad oes tystiolaeth o lygredd eang o fewn yr heddlu" ond beirniadodd berthynas cyn Ddirpwy Gomisiynydd Heddlu Llundain John Yates a chwmni News International.
Cafodd ymchwiliad Leveson ei sefydlu wedi honiadau fod newyddiadurwyr papurau newydd wedi camddefnyddio gwybodaeth breifat ac wedi cael gafael ar y wybodaeth yn annerbyniol yn y lle cyntaf.
Wrth gyhoeddi y penderfyniad i sefydlu yr ymchwiliad ym mis Gorffenaf 2011, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: "Rhaid cofio y gwir ddioddefwyr, anwyliad y rhai laddwyd gan derfysgwyr, perthnasau rhai fu farw ar faes y gad a theluoedd y rhai gafodd eu llofruddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012