Dioddefwr 7/7 yn galw am reoli'r cyfryngau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o dde Cymru a gafodd ei ffôn wedi'i hacio wedi iddo oroesi ymosodiad 7/7 yn Llundain wedi dweud bod angen rheolaeth annibynnol o'r wasg.
Cafodd lluniau o'r anafiadau a gafodd yr Athro John Tulloch pan gafodd ei ddal ar un o drenau tanddaearol Llundain a gafodd ei bomio yn 2005 eu gweld o amgylch y byd.
Fe gafodd wybod yn gynharach eleni gan yr heddlu bod negeseuon ar ei ffôn symudol wedi cael eu clustfeinio gan bapur y News of the World.
Fe fydd adroddiad Leveson i safonau yn y wasg yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.
Roedd yr Athro Tulloch, o Benarth ym Mro Morgannwg, ar drên ac yn eistedd gyferbyn â Mohammad Sidique Khan pan daniodd y bomiwr ei ddyfais.
Symbol
Yn y dyddiau wedi'r ymosodiad, fe ddaeth llun o'r Athro Tulloch gydag anafiadau i'w wyneb yn symbol o greulondeb y diwrnod.
Ond fe ddaeth y sylw a ddilynodd â'r wasg at ei stepen drws.
Dywedodd yr Athro Tulloch: "Fe ges i fy mwlio i wneud cyfweliad gyda'r News of the World ar y diwrnod y cefais fy nillad yn ôl gan yr heddlu ar ôl y bomio."
Daeth i wybod yn ddiweddarach bod y papur wedi bod yn gwrando ar negeseuon a gafodd eu gadael ar ei ffôn symudol.
Cafodd y News of the World ei ddirwyn i ben y llynedd, ond mae'r Athro Tulloch wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn ei gyhoeddwyr, News Group Newspapers sy'n eiddo i Rupert Murdoch.
Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn 'celebrity' mewn unrhyw ffordd, ond wrth i mi fynd ar y trên ac yna'r bom, fe wnaeth y cyfryngau fy ngwneud yn rhyw fath o 'celeb' am gyfnod.
"Mae pawb am gadw'i breifatrwydd, ac rwy'n credu mai'r elfen foesol yw'r un sy'n galw am reoleiddwyr annibynnol.
"Bu ymosodiad ar fy mhreifatrwydd - rhai mewn dulliau cyfreithlon ac eraill sy'n cael eu hystyried yn anghyfreithlon gan yr heddlu.
"Dyna fy marn i oherwydd nid yw'r wasg yn rhydd, mae'n gorfforaethol, ac mae llawer ohonom wedi dioddef oherwydd hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011