Cyhoeddi adroddiad Leveson
- Cyhoeddwyd
Bydd adroddiad Leveson i safonau'r wasg yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach, ac mae disgwyl iddo argymell sustem gadarnach o reoli papurau newydd.
Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu gan y prif weinidog David Cameron wedi i rai newyddiadurwyr gyfaddef iddyn nhw wrando ar negeseuon ffonau symudol nifer o bobl enwog.
Roedd y rhain yn cynnwys nifer o ffigyrau amlwg yng Nghymru, gan gynnwys y gantores Charlotte Church a'r Aelod Seneddol Chris Bryant.
Gall BBC Cymru hefyd ddatgelu bod rhif ffôn Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ar restr oedd yn nwylo News International, cyhoeddwyr papur newydd The News of the World.
Mr Andrews yw Aelod Cynulliad y Rhondda - yr un etholaeth a Mr Bryant.
Gwrthwynebu
Yn natganiad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i ymchwiliad Leveson, dywedodd bod Mr Andrews wedi trafod y mater gyda Heddlu Llundain.
Er hynny, mae Mr Jones yn un o nifer o wleidyddion sy'n gwrthwynebu deddfwriaeth fyddai'n gosod gwaharddiadau ar y wasg.
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd Mr Jones: "Yn reddfol rwy'n gwrthwynebu deddfwriaeth fyddai'n gwahardd y wasg.
"Ond hefyd rhaid i bapurau newydd fod yn gywir a gwir yn eu hadroddiadau heb ystyried safbwynt golygyddol y papur: fe ddylen nhw orfod cywiro unrhyw adroddiadau anghywir neu gamarweiniol pan mae hyn yn digwydd."
Fe fyddai unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw yn sgil yr adroddiad yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
'Deunydd ffiaidd iawn'
Un arall sydd wedi mynegi barn debyg yw Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies. Dywedodd yn ei flog:
"Mae cael gwasg rydd yr un mor bwysig i gymdeithas waraidd ag yw sustem garthffosiaeth - yn wir mae'r effaith yn debyg.
"Does yr un o'r ddau yn destun anwyldeb, ac mae'r ddau yn gallu cario deunydd ffiaidd iawn. Ond ceisiwch ddychmygu bywyd heb yr un o'r ddau.
"Mae angen gwasg rydd i 'gadw'r dyfroedd yn bur', ond rwy'n gwybod hefyd bod angen newid."
Côd ymddygiad
Ar hyn o bryd, mae'r wasg yn rheoleiddio'i hun drwy Gomisiwn Cwynion y Wasg - mae gan y Comisiwn gôd ymddygiad, ac mae'n cael ei reoli gan gynrychiolwyr o'r wasg eu hunain.
Ond fe allai adroddiad Leveson argymell corff annibynnol newydd a deddfau newydd i gadw trefn ar y papurau newydd.
Ymhlith y bobl fu'n rhoi tystiolaeth i'w ymchwiliad roedd Mr Cameron a thri phrif weinidog arall - Tony Blair, Gordon Brown a John Major.
Yn ystod tystiolaeth Mr Cameron, fe ddaeth ei berthynas gyda Rupert Murdoch - cyn berchennog y News of the World - a chyn olygydd y papur Rebekah Brooks i amlygrwydd.
Mae Mr Murdoch yn dal yn berchen ar bapur newydd y Sun a chwmni teledu Sky.
Mae Ms Brooks, a chyn olygydd arall The News of the World Andy Coulson - a fu hefyd yn ymgynghorydd i Mr Cameron - yn wynebu cyhuddiadau troseddol yn dilyn ymchwiliad Heddlu Llundain i hacio ffonau symudol.
Bydd yr Arglwydd Ustus Leveson yn cyhoeddi ei adroddiad am 1:30pm ddydd Iau, ac fe fydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin am yr adroddiad am 3:00pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Awst 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012