Ymgyrch i fynd i’r afael â homoffobia mewn chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Owens fod y cyn chwaraewr rygbi Gareth Thomas yn profi nad oedd ystrydebau rhywiol "wastad yn adlewyrchiad cywir"

Mae angen gwneud mwy i wneud y byd chwaraeon yn fwy croesawgar a diogel i bobl hoyw yn ôl Chwaraeon Cymru.

Daw'r alwad wrth iddyn nhw a mudiad Stonewall Cymru gydweithio ar ymgyrch newydd i geisio taclo'r broblem o homoffobia ym myd y campau.

Ymysg y rhai sy'n cefnogi'r ymgyrch yw'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.

Mae cyrff chwaraeon fel Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn sefydlu grŵp newydd i daclo camwahaniaethu.

'Ystrydebau rhywiol'

Daw hyn wedi canlyniadau arolwg newydd sy'n dangos fod 75% o bobl wedi clywed "sylwadau gwrth hoyw" ym myd chwaraeon.

Canfu'r arolwg hefyd fod 25% o bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol (LHD) sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn teimlo eu bod wedi eu hynysu oherwydd eu rhywioldeb.

Mr Owens, o Gaerfyrddin, yw'r dyn cyntaf hoyw agored i ddyfarnu gemau rhyngwladol.

Dywedodd fod ystrydebu rhywiol yn broblem â "gwreiddiau dyfnion" iddi.

"Mae pobl yn eu cartrefi yn gwylio cymeriadau hoyw ystrydebol sy'n ddoniol ac yn cymryd yn ganiataol bod pob person hoyw yn ymddwyn fel hyn," meddai.

"Dy'n nhw ddim yn meddwl y gallai rhywun fel nhw fod yn hoyw.

"Wrth i'r byd chwaraeon ymrwymo i daclo homoffobia fe fydd pobl yn cael eu calonogi y byddan nhw'n yn cael eu croesawu a chael eu derbyn."

Addysg a hyfforddiant

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y dyfarnwr Nigel Owens fod ystrydebu rhywiol yn broblem â "gwreiddiau dyfnion" iddi

Ychwanegodd fod y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Thomas, wnaeth gyhoeddi ei fod yn hoyw yn 2009, yn profi nad oedd ystrydebau rhywiol "wastad yn adlewyrchiad cywir".

Mewn ymgais i roi sylw i'r problemau y tynnwyd sylw atyn nhw yn yr ymchwil, mae Chwaraeon Cymru, Stonewall Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi ysgogi'r gwaith o sefydlu Rhwydwaith LHD, sy'n gyfrifol am sbarduno cyfranogiad, cefnogaeth a chydraddoldeb, hyrwyddo materion LHD mewn chwaraeon a dileu gwahaniaethu drwy gyflwyno addysg a hyfforddiant.

Datgelodd yr ymchwil fod 94% o 242 ymatebwr wedi cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, er hynny, mae hefyd wedi tynnu sylw at rai rhwystrau sy'n atal cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae'r ymchwil yn datgelu bod dynion hoyw yn arbennig yn fwy tebygol nag ymatebwyr eraill o ddweud nad yw chwaraeon yn amgylchedd diogel i unigolion LHD, gan ddatgan problem o eithrio dwbl o glybiau chwaraeon prif ffrwd, oherwydd eu tueddiad rhywiol a'r camsyniadau am eu gallu fel athletwyr.

Dywedodd Andrew White, cyfarwyddwr Stonewall Cymru: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn dangos nad yw profiadau chwaraeon nifer o'r 184,000 o bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol a geir yng Nghymru yn rhai cadarnhaol bob amser.

"Er bod gan lawer ohonyn nhw ddiddordeb mewn chwaraeon, maen nhw hefyd wedi troi eu cefn oherwydd profiadau neu agweddau negyddol."

Dywedodd Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: "Mewn chwaraeon mewn ysgolion a hefyd mewn chwaraeon cymunedol a phroffesiynol, ymhlith cyfranogwyr, hyfforddwyr a gwylwyr, mae'n rhaid i'r sector bwyso a mesur pethau ac edrych ar beth mwy gellir ei wneud er mwyn sicrhau bod croeso cynnes i bawb."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol