'Modd atal neu wrthdroi clefyd' yn ôl ymchwilwyr cryd cymalau

  • Cyhoeddwyd
cryd cymalau esgyrnolFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae cryd cymalau esgyrnol yn effeithio ar tua 40% o bobl dros 70 oed

Mae modd atal neu hyd yn oed wrthdroi clefyd sy'n effeithio ar fwyfwy o bobl ifanc, medd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae Dr Ilyas Khan a Dr Lewis Francis wrthi'n ceisio darganfod sut y gellir iacháu cryd cymalau esgynnol.

Yn ôl gwaith ymchwil y darlithwyr yng Nghanolfan Nanoiechyd y Brifysgol ac a noddir gan Ymchwil Arthritis y DU, gall y cyflwr gael ei wrthdroi gan ddefnyddio cyfuniad penodol o ffactorau twf sy'n cynorthwyo'r cartilag i gryfhau a thyfu unwaith eto.

Pan mae'r cartilag mewn pen-glin neu glun â chryd cymalau esgynnol, mae'n fwy meddal sy'n golygu nad yw'n gallu cario'r un pwysau ac fe all hyn arwain at golli cartilag yn sylweddol.

Chwaraeon eithafol

Nod eu hymchwil yw cywiro ac adfywio cymalau pobl ifanc sydd wedi'u difrodi er mwyn osgoi'r posibilrwydd o orfod cael triniaeth pan yn hŷn.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dr Khan (chwith) a Dr Francis sydd wrthi'n ceisio darganfod sut y gellir iacháu cryd cymalau esgyrnol.

Mae mwy o bobl ifanc bellach angen triniaeth oherwydd bod mwy ohonyn nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.

Diolch i'r canlyniadau cadarnhaol, mae'r tîm wedi derbyn £70,000 gan Ymchwil Orthopedig y DU i barhau â'r gwaith a rhoi cynnig ar y driniaeth wrth ddefnyddio cartilag dynol.

''Cawsom ein synnu bod ein dulliau wedi llwyddo i gryfhau ac adfywio'r cartilag cymaint," meddai Dr Ilyas Khan.

"Mae'r darganfyddiadau cyffrous hyn yn berthnasol i bawb gan y bydd canran uchel ohonom yn debygol o ddioddef o'r cyflwr rhywben mewn bywyd.

"Hoffwn ddiolch i Ymchwil Arthritis y DU ac Ymchwil Orthopedig y DU am eu cefnogaeth fydd yn ein galluogi i geisio darganfod dull o iacháu'r cyflwr yn y dyfodol agos.

"Rwy'n falch fod yr ymchwil yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy'n gobeithio y bydd modd i bobl yr ardal elwa o unrhyw driniaethau wnaiff ddeillio o'n hymchwil.''

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol